Artist

Jon Pountney

Portrait of Jon Pountney

Mae Jon Pountney yn ffotograffydd proffesiynol ac yn artist, sy’n byw yn Nhrefforest, Rhondda Cynon Taf. Mae ei waith wedi’i ysbrydoli gan gof, hiraeth, hanes cymdeithasol a’r gymuned, ac mae’n gweithio gan ddefnyddio amrywiol gyfryngau. Yn bennaf, mae’n defnyddio ffilm a ffotograffiaeth ddigidol, ond mae yr un mor gyfforddus a hyfedr wrth beintio neu ddefnyddio fideo neu super8 i gyflwyno ei waith. Mae’r artist yn angerddol am weithio gyda chymunedau a phobl, i ddod â straeon yn fyw ac i sylw’r byd. Mae cymaint o hanes Cymru ar ffurf gair llafar ac ar gael fel atgofion yn unig; ond heb ei dehongli, collir y dystiolaeth honno. Ac yntau wedi dysgu o brofiad personol, mae ei waith yn sicrhau bod y straeon hyn yn cael eu dweud, a’u bod yn hygyrch i bawb.

jonpountney.co.uk

Gallery

Many Voices, One Nation

Mae llawer o waith Pountney yn ymwneud â gorffennol diwydiannol a chymdeithasol Cymru, ac mae gan yr artist ddiddordeb mewn edrych ar yr hyn a ddefnyddir i ddatblygu ymdeimlad o genedligrwydd wrth i Gymru ymbellhau oddi wrth ei delwedd draddodiadol o ddiwydiant trwm a chloddio glo. Mae Jon Pountney wedi dilyn datblygiad Senedd Ieuenctid Cymru gyda chryn ddiddordeb, ac mae bellach yn creu portreadau o aelodau’r Senedd Ieuenctid, yn tynnu eu lluniau mewn cyfres o ddigwyddiadau rhanbarthol ac yn dangos y cefndiroedd a’r naratifau amrywiol sydd wedi’u harwain at ddod yn aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru.