Ymweliad

© Kamila Jarczack

Yr Hen Ysgol Sul

Er bod y mwyafrif o’n digwyddiadau a’n harddangosfeydd yn digwydd yn ein horiel ein hun, mae rhai prosiectau’n digwydd mewn lleoliadau eraill yn lleol a rhyngwladol, felly cofiwch edrych ymhle mae lleoliad ac amseroedd agor pob arddangosfa/digwyddiad cyn cychwyn.

Cysylltwch â Ni

029 2034 1667

Oriau Agor yr Oriel
Dydd Mercher - Dydd Sadwrn, 12pm-5pm

Oriau Agor y Swyddfa

Dydd Llun - Dydd Gwener, 9.30am-5.30pm

Nodwch os gwelwch yn dda, bydd yr oriel ar gau pan fyddwn ni’n newid yr arddangosiadau.

Cyrraedd Yno

Trên

Y tair gorsaf drenau agosaf yw Cathays (0.4 milltir), Heol y Frenhines Caerdydd (0.9 milltir) a Chaerdydd Canolog (1.4 milltir).

Bws

O Ganol Dinas Caerdydd:
Mae Rhifau 8 a 9 tuag at y Mynydd Bychan yn stopio yn Woodville Road, llai na 2 funud ar droed o Ffotogallery ac, mae rhif 58 tuag at Bontprennau’n stopio yn Inverness Place, sy’n daith gerdded o 10 munud.

Car

Mae’n hawdd mynd i Cathays mewn car ar hyd yr M4 a’r A48 (M). Gallwch barcio am gyfnod byr ar Ffordd Crwys ac mae rhywfaint o le i barcio ar y strydoedd o dai cyfagos.

The Old Sunday School
Fanny Street
Cathays
Caerdydd CF24 4EH

Hygyrchedd

Mae’r oriel yn hollol hygyrch i gadeiriau olwyn. Mae testunau print mawr ar gael ac mae croeso i gŵn tywys drwy’r adeilad cyfan. Ffoniwch ni ar 029 2034 1667 os byddwch angen unrhyw gymorth neu gofynnwch i aelod o staff pan gyrhaeddwch.

Ymweliadau Grŵp

Os ydych yn bwriadu ymweld â’r oriel, lawrlwythwch ein llawlyfr rhad ac am ddim, Ffotogallery: Cynllunio eich Ymweliad, sy’n cynnig syniadau a ffyrdd y gall athrawon/arweinwyr grŵp elwa i’r eithaf ar ymweliad â Ffotogallery a theimlo’n ddigon hyderus i ddefnyddio’r arddangosfeydd yn annibynnol os bydd angen.

Mae’n cynnwys syniadau ar gyfer paratoi, gweithgareddau oriel, a gwaith dilynol y gobeithiwn y byddant yn ysgogi eich grŵp, ac o ddefnydd iddo. Gallwch addasu’r rhain neu ddethol y rhai mwyaf addas i’r arddangosfa ac oed/gallu eich grŵp.