1968: the Fire of Ideas - Ar Daith
Marcelo Brodsky
Mae Marcelo Brodsky yn artist ac ymgyrchydd hawliau dynol o'r Ariannin, ac yn gweithio gyda delweddau a dogfennau o ddigwyddiadau penodol er mwyn ymchwilio i faterion cymdeithasol, gwleidyddol a hanesyddol ehangach. Yn 1968 The Fire of Ideas, mae Brodsky yn defnyddio delweddau archifol o brotestiadau gan fyfyrwyr a gweithwyr ledled y byd ac yn eu hanodi'n ofalus er mwyn dadadeiladu'r cynnwrf cymdeithasol a ledodd ledled y byd ar ddiwedd y 1960au. Mae delweddau o brotestiadau yn erbyn rhyfel Fietnam yn Llundain a Tokyo yn cael eu cyflwyno ochr yn ochr â delweddau o brotestiadau yn Bogota, Rio de Janeiro, Mecsico, Prâg a Sao Paolo yn erbyn cyfundrefnau milwrol a strwythurau llywodraethol gormesol. Am ddegawdau, roedd Brodsky yn berchen ar ac yn gyfarwyddwr asiantaeth luniau â swyddfeydd ledled America Ladin. Mae ei ddealltwriaeth soffistigedig o olygu delweddau, ac o'r modd y mae newid trefn delweddau yn gallu newid y ffordd y mae cynulleidfaoedd yn eu darllen, yn ei alluogi i ddefnyddio testun a dyfeisiau graffigol i altro safbwynt y gwyliwr ac i ddatgelu haenau o ystyr newydd.
Proffil Artist
Marcelo Brodsky
Mae Marcelo Brodsky (1954) yn byw ac yn gweithio yn Buenos Aires, Yr Ariannin. Yn artist ac ymgyrchydd gwleidyddol, mae gwaith Brodsky yn bodoli ar y ffiniau rhwng gosodwaith, perfformiad, ffotograffiaeth a chofeb. Cafodd ei waith nodedig, Buena Memoria (1996), ei dangos yn gyhoeddus fwy na 150 o weithiau, mewn mannau cyhoeddus yn ogystal ag mewn amgueddfeydd ledled y byd. Mae'n adrodd hanes ei genhedlaeth ef ac effaith unbenaethau yr Ariannin arni – ac yn dangos y tyllau yn ffabrig y genhedlaeth honno a ddaeth yn sgil diflaniadau ei ffrindiau a'i gyd-ddisgyblion.
Mae sioeau a llyfrau unigol Brodsky yn cynnwys Nexo, Memory under Construction, a Visual Correspondences, ei sgyrsiau gweledol gydag artistiaid a ffotograffwyr eraill, fel Martin Parr, Manel Esclusa a Pablo Ortiz Monasterio. Mae ei brosiectau diweddar yn cynnwys cyhoeddi Once@9:53 gyda Ilan Stavans, ffoto-nofelig sy'n cyfuno cronicl a ffuglen, a Tree Time, llyfr am y berthynas rhwng y cof a Natur. Ei arddangosfeydd cyfredol yw "1968 The Fire of Ideas" a "Migrants", sydd yn ysgrif weledol am argyfwng ffoaduriaid Ewrop a'i symudiadau ef ei hun. Mae ei waith yn rhan o gasgliadau mawrion yn Amgueddfa Celfyddydau Cain Houston, Casgliad Tate Llundain, Amgueddfa Gelfyddyd y Metropolitan yn Efrog Newydd, Museo Nacional de Bellas Artes yr Ariannin, Museo de Arte Moderno Buenos Aires, Canolfan Ffotograffiaeth Greadigol Tucson, Arizona, Amgueddfa Sprengel Hannover, y Museo de la Memoria y los Derechos Humanos, Santiago de Chile, MALI Lima, ac eraill.