Arddangosfa / 7 Medi – 28 Medi 2018

212 Degrees Fahrenheit

John Wiltshire

212 Degrees Fahrenheit
© John Wiltshire
212 Degrees Fahrenheit
© John Wiltshire
212 Degrees Fahrenheit
© John Wiltshire
212 Degrees Fahrenheit
© John Wiltshire

Mae Ffotogallery yn falch o gyflwyno 212 Degrees Fahrenheit, arddangosfa newydd o ffotograffau o drenau stêm gan y diweddar John Wiltshire, a fydd i'w gweld yn Nhŷ Turner, Penarth, rhwng 7 a 28 Medi, ynghyd â rhagolwg arbennig ar 6 Medi o 6pm ymlaen.

Mae'r arddangosfa yn cyflwyno portffolio stêm John, a lluniau’n rhychwantu’r cyfnod rhwng 1948 a diwedd cyfnod trenau stêm diwydiannol y DG tua diwedd y 1970au. Ond nid arddangosfa ar gyfer arbenigwyr yn unig yw hon; mae'r gwaith yn dangos sut yr oedd y rheilffyrdd yn rhan o fywyd bob dydd yn ystod y 1950au a'r 60au, ac yn canolbwyntio ar y bobl a weithiai gyda'r locomotifau stêm ar reilffyrdd Prydain ac ar ystadau diwydiannol.

Ar ôl ei farwolaeth yn 2016, trosglwyddwyd casgliad ffotograffig John i'w fab, Andrew. Mae Andrew’n awdur sy'n ysgrifennu am y diwydiant cludiant ac fe gyhoeddodd lyfrau am longau a bysiau, rhai ohonynt yn cynnwys lluniau ei dad. Dros y pum mlynedd diwethaf, aeth Andrew Wiltshire a Peter Brabham, cydweithiwr iddo ym Mhrifysgol Caerdydd, ati i gydlynu a digido'r casgliad, sy'n cynnwys dros 4000 o ddelweddau ynghyd â gweithiau ysgrifenedig atodol.

Proffil Artist

Portread o John Wiltshire

John Wiltshire

Ganed John Wiltshire (1929-2016) yn Walsall lle cychwynnodd ei ddiddordeb mewn trenau, tramiau, bysiau a llongau. Roedd John yn ffotograffydd technegol talentog ac fe gofnododd lawer o'r hyn a welodd â chryn fanylder. Mae ei gasgliad ffotograffig yn dechrau ym 1948 â lluniau du a gwyn fformat mawr; yn ystod y degawdau dilynol, esblygodd i gynnwys ffilm sleidiau lliw.