Arddangosfa / 1 Gorff – 22 Gorff 2017

A Million Mutinies Later

A Million Mutinies Later
© Arko Datto
A Million Mutinies Later
© Bharat Sikka
A Million Mutinies Later
© Aishwarya Arumbakkam

Fel rhan o Diffusion: Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Caerdydd 2017, mae’n bleser gan Ffotogallery gyflwyno’r arddangosfa A Million Mutinies Later – India at 70, ar y cyd â Sefydliad Nazar/Gŵyl Ffoto Delhi ar gyfer Blwyddyn Diwylliant y DU-India 2017

Bu’r dyfodol yn ansicr, i ryw raddau, erioed, ond efallai erioed mor ansicr ag yn awr. Er i ni ddod i gydnabod hyn drwy rannu ymdeimlad o natur anrhagweladwy pethau, o newid parhaus ynghyd ag ofn, mae’r anghysur torfol hwn yn deillio nid yn unig o gyflwr presennol y byd, ond o’r ffaith bod yr amodau hyn yn ymddangos yn annealladwy. Mae Wikileaks, gwrthdystio, dymchwel llywodraethau a gwrthryfela yn realaeth gyson yn ein bywydau, ble bynnag y byddom yn byw. Ac eto, does dim yn glir wrth i ni geisio amgyffred y digwyddiadau hyn sydd wedi newid hanfod gwead ein cymdeithas fyd-eang.

Fel cenedl fodern sy’n chware rhan bwysig yn yr economi fyd-eang, gwelwyd India ar y trothwy ers deng mlynedd ar hugain – gyda rhyddfrydoli’n ildio i lifeiriant cyson o ddiwygiadau a chwyldroadau, a ysgogwyd gan y newidiadau anferth a ddeilliodd o ddyfodiad technoleg gwybodaeth, trefoli, ac adfywiad ymdeimlad o genedlaetholdeb. Mae A Million Mutinies Later – India at 70, sy’n cynnwys gwaith 14 artist Indiaidd cyfoes mewn amryw o gyfryngau, yn ymchwiliad nid yn unig i’r India go iawn ond i’r un arall lawn mor bresennol a phwysig, h.y. India’r dychymyg, sydd wedi esblygu a thrawsnewid ei hun yn sylweddol yn y parth cyhoeddus ac ym meddyliau Indiaid dros y blynyddoedd.

Mae arddangosfa A Million Mutinies Later – India at 70 yn rhan o Dreamtigers, project newydd mawr Ffotogallery lle mae artistiaid a gweithwyr diwylliannol proffesiynol o India a Chymru’n cydweithio i greu a chyflwyno gwaith newydd sy’n adlewyrchu sut mae creadigrwydd, technoleg, ac ymdeimlad o’r newydd o hunaniaeth genedlaethol yn ffurfio bywydau cenedlaethau i ddod.