Digwyddiad / 20 Awst 2022

Altered Images

Michal Iwanowski

Altered Images: Gweithdy diwrnod cyfan yn archwilio prosesau ffotograffig arbrofol o amgylch y thema ‘hunaniaeth’ gyda Michal Iwanowski yn Ystafelloedd Tywyll y Golchdy yn Stiwdios Made In Roath ar Ddydd Sadwrn 20fed Awst.

Thema’r gweithdy fydd archwilio lliw a ffurf mewn prosesau argraffu di-gamera detholedig, o ffotogramau unlliw, i cyanoteipiau, i anthoteipiau a fydd yn defnyddio defnyddiau naturiol sy’n tyfu yng ngardd Made in Roath. Byddwn yn ceisio defnyddio amrywiaeth o blanhigion ar mwyn cynnwys holl liwiau’r enfys, yn dibynnu ar y fflora sydd ar gael yn yr ardd. Ond gan ddefnyddio cyanoteipiau a thyrmerig o leiaf bydd gennym y melyn a’r glas i greu baner Wcráin.

Bydd y gweithgareddau ymarferol hyn yn cynnwys: Cyflwyniad i’r gweithdy (enghreifftiau o’r gwaith y byddwn yn ei wneud, sut i ddefnyddio’r ystafell dywyll yn ddiogel, iechyd a diogelwch, ac amserlenni).

Yna byddwn yn gweithio drwy dair proses:

1. Ffotogramau

2. Cyanoteipiau

3. Anthoteipiau

Mae’r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim ond mae’n rhaid cofrestru o flaen llaw am fod y lleoedd yn gyfyngedig.

Proffil Artist

Portread o Michal Iwanowski

Michal Iwanowski

Mae Michal Iwanowski yn ddarlithydd mewn ffotograffiaeth ac artist gweledol wedi ei seilio yng Nghaerdydd. Graddiodd gydag MFA mewn Ffotograffiaeth Ddogfennol o Brifysgol Cymru, Casnewydd yn 2008, ac mae wedi bod yn datblygu a dangos ei waith ers 2004. Enillodd ddyfarniad Ffotograffydd Newydd Addawol gan y Magenta Foundation, a dyfarnwyd Gair o Ganmoliaeth iddo yn y Px3 Prix De Photographie, Paris. Mae wedi derbyn grantiau Cyngor Celfyddydau Cymru am ei brosiectau Clear of People a Go Home, Polish, a chafodd y ddau eu henwebu ar gyfer Gwobr Ffotograffiaeth Deutsche Börse - yn 2017 am ei lyfr ‘Clear of People,’ ac yn 2019 am yr arddangosfa Go Home Polish yn Peckham24. Cafodd ei waith ei arddangos a’i gyhoeddi drwy’r byd i gyd, ac mae nifer o sefydliadau wedi sicrhau darnau o’i waith ar gyfer eu casgliadau parhaol, yn cynnwys yr Amgueddfa Genedlaethol.