Opportunity / 10 Rhag – 11 Ion 2019

Galw am Gynigion: A Woman's Work

Mae rôl y ferch mewn gwaith technolegol a diwydiannol yn Ewrop ar ôl y rhyfel yn stori sydd heb ei hadrodd eto, ac mae archifau clyweledol wedi tueddu canolbwyntio ar ‘ddiwydiannau trwm’ gwrywaidd megis glo, haearn a dur, neu sectorau peirianegol mawrion megis adeiladu llongau, adeiladu, aerofod a chynhyrchu ceir. Ac eto mae merched yn parhau i chwarae rôl allweddol mewn llawer o ddiwydiannau gweithgynhyrchu - er enghraifft tecstilau, electroneg, bwyd a diod, plastigau a deunydd fferyllol – ffaith nad yw’n cael ei chydnabod na’i chynrychioli’n gryf yn archifau diwylliannol Ewrop.

Mae A Woman’s Work yn brosiect sy’n defnyddio ffotograffiaeth a’r cyfryngau digidol i ymdrin â’r diffyg hwnnw drwy gyfnewid a chydweithio artistig yn rhyngwladol, a chyd-gynhyrchu arddangosfeydd, cyhoeddiadau ac adnoddau ar-lein sy’n herio’r farn ddominyddol am ryw a diwydiant yn Ewrop.

Rydym yn gwahodd artistiaid a churaduron yn Ewrop i gynnig prosiectau sy’n ymdrin â themâu craidd A Woman’s Work, sy’n rhaglen gydweithredol 24 mis lle bydd partneriaid diwylliannol yn y Deyrnas Unedig, Lithwania, Iwerddon, Ffrainc a’r Ffindir yn cydweithio i geisio cyflawni’r amcanion nesaf yma:

  • galluogi artistiaid a phobl broffesiynol ddiwylliannol leded Ewrop i gydweithio ar wneud a chyflwyno i gynulleidfaoedd waith newydd sy’n canolbwyntio ar wyneb newidiol merched a gwaith yn Ewrop, gan rannu profiad ac arferion proffesiynol ar lwyfannau ffisegol ac ar-lein
  • creu cyfleoedd newydd ar gyfer cyfnewidiad artistig yn Ewrop, cynyddu symudedd artistiaid a phobl broffesiynol ddiwylliannol,a defnyddio ein rhwydweithiau perthnasol a’n cysylltiadau i gynyddu effaith y gwaith ac i ymestyn ei gyrhaeddiad i gynulleidfaoedd ehangach

Cliciwch yma i ganfod rhagor am y prosiect a sut i wneud cais