Arddangosfa / 4 Mai – 4 Awst 2018

Chronicle

Chronicle
© Ron McCormick, from 'Eye of the Beholder' exhibition poster

Ym mis Medi 1978, agorwyd yr oriel gyntaf yng Nghymru a oedd yn canolbwyntio ar ffotograffiaeth - yn Charles Street, Caerdydd. Ei henw oedd 'Yr Oriel Ffotograffeg'. Newidiwyd yr enw i Ffotogallery yn 1981, ac mae'r sefydliad yn parhau i ffynnu ddeugain mlynedd yn ddiweddarach. Y bwriad yw agor canolfan newydd yng nghanol dinas Caerdydd ym mis pen-blwydd Ffotogallery, mis Medi 2018.

Mae Chronicle yn arddangosfa newydd sy'n tynnu ar ddeunydd archifol a chyfoes er mwyn adrodd hanes datblygiad Ffotogallery dros y 40 mlynedd hynny, yn erbyn cefndir o newidiadau yn natur a rôl ffotograffiaeth yn ein cymdeithas a chynnydd y diwylliant digidol. Bydd yr arddangosfa'n dangos sut yr aeth Ffotogallery ati i roi sylw cynnar i ffotograffwyr ac artistiaid fel Martin Parr, Paul Graham, Helen Sear a Bedwyr Williams - artistiaid a aeth yn eu blaenau i fwynhau llwyddiant ar y llwyfan rhyngwladol. Bydd yn cofnodi ffocws tymor hir Ffotogallery ar Gymoedd y De trwy gyfrwng cyfres o gomisiynau ac arddangosfeydd sy'n dogfennu gwahanol agweddau ar fywyd yn y Cymoedd yn ystod cyfnod o drawsnewid di-baid. Bydd Chronicle hefyd yn dathlu ymgysylltiad rhyngwladol Ffotogallery - cyhoeddiadau ac arddangosfeydd teithiol, menter European Prospects, Cymru yn Fenis 2015, prosiect India-Cymru Dreamtigers, a thri rhifyn o ŵyl dwyflynyddol Diffusion: Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Caerdydd.

Ers ei sefydlu 40 mlynedd yn ôl, mae Ffotogallery wedi bod ar flaen y gad o ran datblygu diwylliant ffotograffig cyfoes yng Nghymru trwy gyfrwng ein gwaith yn comisiynu ac yn cyflwyno gwaith newydd ar gyfer arddangosfeydd a gwyliau a digwyddiadau rhyngwladol. Rydym hefyd yn cyhoeddi'n helaeth mewn print ac ar-lein, yn cynnig cefnogaeth i artistiaid ffotograffig addawol, ac yn cynnig rhaglen o addysg ac allgymorth arloesol sy'n cynnig cyfleoedd ar gyfer cyfranogiad creadigol i groestoriad eang o'r gymuned. 

Mae Chronicle yn gosod y sylfaen ar gyfer y camau nesaf yng ngwaith Ffotogallery; mae cenhedlaeth newydd o ffotograffwyr ac artistiaid cyfryngau'r lens yn dod i'r amlwg yn ystod cyfnod pan dderbyniwn a phan gyflwynwn fwy a mwy o gynnwys creadigol ar blatfformau ffisegol a rhithwir. A chymaint o ddelweddau yn cael eu rhannu ar-lein, a fydd yna alw o hyd am orielau celf ac arddangosfeydd traddodiadol? Os felly, pa waith fydd yn cael ei gyflwyno? Ac ym mha fath o ganolfannau? Pa sgiliau fydd eu hangen ar ffotograffwyr ac artistiaid er mwyn sicrhau gyrfa lwyddiannus? Sut all Cymru fod yn fwy cysylltiedig yn fyd-eang, trwy gyfrwng ffotograffiaeth a'r cyfryngau digidol? Bydd y cwestiynau hyn a mwy yn cael sylw mewn cyfres o sgyrsiau, gweithdai a digwyddiadau i gyd-fynd ag arddangosfa Chronicle.