Prosiect

Diffusion 2013

Diffusion 2013
© Dimitra Kountiou

Ar gyfer ei gŵyl gyntaf yn 2013, fe ganolbwyntiodd Diffusion ar gyflwr ffotograffiaeth a chyfryngau lens mewn oes ddigidol, a’i rôl wrth ddogfennu bywydau a phrofiadau pobl a mynegiant o hunaniaethau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Fe ddenodd Diffusion 2013 gynifer â 56,500 o ymwelwyr o Gymru a thu hwnt gan gynnig rhaglen swmpus o arddangosfeydd, digwyddiadau a gweithgareddau creadigol cyfranogol mewn mannau rhithwir a go iawn.

© Dimitra Kountiou

Rhwng 1 a 31 Mai 2013, fe gyflwynodd Diffusion:

  • 20 o arddangosfeydd ar draws 15 o leoliadau o fewn y ddinas, o Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i Ganolfan Chapter, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i Neuadd Dewi Sant. Fe wnaeth Diffusion hefyd weddnewid y ‘Tramshed’, sef adeilad gwag diwydiannol o gyfnod y 19eg ganrif, gan greu defnydd diwylliannol iddo am y tro cyntaf erioed.
  • 5 arddangosfa mewn 3 lleoliad yn Abertawe, Caerffili ac Aberystwyth
  • Symposiwm undydd yn yr Amgueddfa Genedlaethol a fynychwyd gan 200 o siaradwyr a chynrychiolwyr o orielau, amgueddfeydd a’r byd celf fasnachol ryngwladol, gan gynnwys araith gyweirnod gan yr artist byd-enwog, Richard Wentworth.
  • Penwythnos Cyhoeddi Annibynnol dros ddeuddydd yng Nghanolfan Chapter a fynychwyd gan 635 o arddangoswyr ac ymwelwyr gan gynnwys ffair llyfrau llun, symposiwm, gweithdai, lansiadau a digwyddiadau llyfrau.
  • Cyflwyniad o waith ffotograffig a lens gan 120 o artistiaid a chyhoeddwyr o Gymru, yr Alban, Lloegr, Gogledd Iwerddon, Portiwgal, Norwy, Y Ffindir, Denmarc, Gwlad Pwyl, Lithwania, Canada, yr Almaen, yr Eidal, Sbaen, yr Unol Daleithiau, Colombia, yr Iseldiroedd, Sweden, Latfia, a’r Weriniaeth Tsiec.
  • Profiad Diffusion ar-lein lle bu cyfweliadau artist, sioeau sleidiau, adolygiadau, fideos a chynnwys arall yn cael eu llwytho i fyny i wefan yr ŵyl drwy gydol y mis, gan gynnig dogfennaeth byw o ddigwyddiadau oedd yn rhoi profiad i wylwyr ar draws y byd a bod yn archif gynhwysfawr o Diffusion 2013.
  • Celf cyfranogol newydd mewn mannau cyhoeddus, gan gynnwys Ffotohive, Camper Obscura, Cardiff Pop-Up Portrait Studio, Cardiff Encounters a Cardiff PhotoMarathon.
  • Rhaglen o weithgareddau cyfranogol i’r teulu, gan gynnwys arddangosfa teithiol, teithiau cerdded a sgyrsiau artist, pedwar trafodaeth Platform, iPhoneography, gweithgareddau casglu Gif, rhwymo llyfrau, croniclo Caerdydd a gweithdai portreadau brodweithiol, a gweithgaredd tê a chacen ar ddyddiau Mawrth.

© Claire Kern