Digwyddiad / 18 Chwef 2023

Trafodaeth Panel: Moeseg Ffotograffiaeth yn Ystod ac yn Dilyn Gwrthdaro

Benjamin Chesterton, Nelly Ating, Tudor Etchells, Andy Barnham

Ymunwch â ni ar Ddydd Iau 16 Chwefror i fwynhau trafodaeth fanwl am foeseg ffotograffiaeth yn ystod ac yn dilyn gwrthdaro, i gyd-fynd â’n harddangosfa bresennol, We Are Here, Because You Were There: Afghan Interpreters in the UK.

Rydym wrth ein boddau bod yr aelodau panel dilynol yn ymuno â ni;

Nelly Ating, ffotonewyddiadurwr sy’n cynhyrchu gwaith gyda ffocws ar gwestiynau hunaniaeth, ymgyrchu, addysg, eithafiaeth a mudo;

Tudor Etchells, ffotograffydd, ymchwilydd a chyfreithiwr hawliau dynol i gleientiaid yn y system fudo;

Benjamin Chesterton, cyd-sylfaenydd y cwmni cynhyrchu ffilmiau duckrabbit sydd wedi ennill sawl gwobr;

Andy Barnham, ffotograffydd a chyn-filwr a wasanaethodd fel swyddog gyda’r Magnelwyr Brenhinol, gan fynd ar gyrchoedd gweithredol nifer o weithiau i Irac, Cyprus ac Affganistan lle dogfennodd ei brofiadau.

Dan gadeiryddiaeth ein cyfarwyddwr, Siân Addicott, bydd ein panel o ffotograffwyr a gwneuthurwyr ffilmiau cyfoes yn archwilio’r codau moesol a ddefnyddir gan y rheiny sy’n dogfennu pobl a lleoedd a effeithiwyd gan weithredoedd rhyfelgar.

Edrychwn ymlaen at noson o drafod craff a diddorol gan aelodau ein panel a’n cynulleidfa.

Mae’r arddangosfa We Are Here, Because You Were There: Afghan Interpreters in the UK yn parhau hyd 25 Mawrth, gan agor Dydd Mercher – Dydd Sadwrn, 12 - 5pm.

Proffil Artistiaid

Portread o Benjamin Chesterton

Benjamin Chesterton

Mae Benjamin yn cyfarwyddo ac yn cynhyrchu gwaith ffilm duckrabbit ac mae’n arwain ein hyfforddiant. Roedd yn un o sefydlwyr y cwmni a gychwynwyd yn 2008, ond cyn hynny roedd Benjamin yn gweithio i’r BBC yn cynhyrchu rhaglenni dogfen.

Portread o Nelly Ating

Nelly Ating

Ffotonewyddiadurwr yw Nelly Ating sy'n canolbwyntio ar gwestiynau hunaniaeth, ymgyrchu, addysg, eithafiaeth a mudo. Mae ei gwaith ffotograffig, sy’n dogfennu cynnydd terfysgaeth Boko Haram rhwng 2014 a 2020 yng Ngogledd-ddwyrain Nigeria, yn tynnu sylw at y cysylltiad rhwng radicaleiddio a chyfryngu ar ôl gwrthdaro. Mae Ating wedi cyflwyno ei gwaith ffotograffig mewn lleoliadau academaidd ac anacademaidd yn Affrica, Ewrop ac America. Ar hyn o bryd, mae hi’n gwneud PhD ym Mhrifysgol Caerdydd ar y croestoriad rhwng diwylliant gweledol ac eiriolaeth hawliau dynol.

Portread o Tudor Etchells

Tudor Etchells

Mae Tudor Rhys Etchells (Cymru, 1994) yn ffotograffydd, ymchwiliwr a chyfreithiwr hawliau dynol i gleientiaid yn y system fudo. Mae ei waith yn mynd ati i geisio datgelu systemau sy’n dal i fod ynghudd ond sydd wedi eu dychmygu yn y gydwybod gymdeithasol. I Etchells, gellir defnyddio'r cyfrwng ffotograffig, gyda'i strwythurau beichus ei hun o weld a chynrychioli, i ddadadeiladu prosesau a normau strwythurau cymdeithasol ehangach. Mae ei waith fel cyfreithiwr hawliau dynol yn fan cychwyn ar gyfer ei ymchwil ffotograffig i systemau rheolaeth gymdeithasol a rôl y dystiolaeth weledol oddi mewn iddynt.

Portread o Andy Barnham

Andy Barnham

Mae Andy Barnham yn ffotograffydd, cyn-filwr a mab i ffoadur. Mae’n gymysg o ran ei hil (Seisnig/Tsieineaidd) ac yn siarad nifer o ieithoedd (Saesneg, Tsieinëeg, Ffrangeg a Farsi). Cafodd ei eni yn Hong Kong ac aeth i’r ysgol a’r brifysgol yn y DU cyn gwasanaethu fel swyddog yn y Magnelwyr Brenhinol, gan fynd ar gyrchoedd gweithredol nifer o weithiau i Irac, Cyprus ac Afghanistan lle dogfennodd ei brofiadau fel ffotograffydd hamdden. Wedi iddo adael y Fyddin Brydeinig, trodd Andy ei angerdd yn yrfa a glaniodd ar Savile Row lle daeth yn rhan o fyd dilladol Llundain. Am fwy na degawd, bu’n tynnu lluniau’r agweddau gorau o dreftadaeth a chrefft Brydeinig ar gyfer teitlau golygyddol moethus cyn canolbwyntio ei sgiliau arsylwi a rhyngbersonol ar bortreadau. Roedd We Are Here yn un o’r gweithiau buddugol yng ngwobrau ffotograffau Prix de la Photographie 2022, Paris (PX3) yn y categori portreadau.