Opportunity / 8 Chwef – 17 Chwef 2019

Media Producer

DIFFUSION: GWYL RYNGWLADOL FFOTOGRAFFIAETH CAERDYDD 2019

Cyfleoedd Interniaeth. Mawrth 1 - Mai 10 2019

Cefndir

Bydd thema Diffusion 2019, sef Sain+Gweledigaeth, yn ymchwilio’r berthynas rhwng sain, ffotograffiaeth, a chyfryngau’r lens. Ynghyd a hynny, ymchwilia sut mae trawsyriad, cyflwyniad, a darllediad delweddau o fewn diwylliant gweledol cyfoes yn cael eu dylanwadu gan sain, a sut y gallwch brofi cerddoriaeth ar sail weledol a chlywedol. Fel yn y tair gwyl cyntaf, bydd Diffusion 2019 yn dod a chelf rhyngwladol newydd i Gymru tra hefyd yn arddangos doniau o fewn Cymru. Bydd yn canolbwyntio ar grwp arwyddocaol o ddoniau yn ogystal a pherthnasau y mae Ffotogallery wedi datblygu dros y degawd diwethaf.

Yn debyg i’n gwyliau diwethaf, bydd Diffusion 2019 yn cynnwys mis o arddangosfeydd, sgrinio, perfformiadau, digwyddiadau, a dathliadau, o fewn llefydd a gwageloedd corfforol a gweithredol yn y ddinas. Mae ein cyffro o gyfranogi’n uniongyrchol yn yr wyl ryngwladol yn cynyddu ymhellach diolch i gyhoeddiadau dwyieithog ar bapur ac ar-lein, ar wefannau, ac ar rwydweithiau cymdeithasol.

Cyfleoedd Interniaeathau a Phrofiad Gwaith

Mae Diffusion yn brosiect Ffotogallery ac am bob un o’n argraffiadau dwyflynyddol, rydym wedi ehangu ein tîm. Gwneir hyn drwy ein gwaith gydag artistiaid a thrwy greu partneriaethau yng Nghaerdydd ac ar lefel ryngwladol er mwyn cynnig cyfleoedd gwaith i internwyr, gwirfoddolwyr ac i’r rhai sy’n gweithio i’w hunain. Mae nifer o internwyr a gwirfoddolwyr y gorffennol wedi defnyddio’r profiad fel sylfaen i yrfaoedd llwyddianus o fewn y celfyddydau neu fel modd o ail-gwrdd a’u angerdd at gelf a’r cyfryngau trwy fod yn ran o’r tîm deinamig a chreadigol sydd tu ôl i’r wyl.

Yn ogystal a chyfleoedd gwirfoddoli, mae gennym ychydig o safleoedd interniaethu sy’n talu a sy’n para rhwng 8 a 10 wythnos (yn dibynnu ar y dyddiadau dechrau a gorffen). Maent yn cynnig profiad o fewn pob cam y brosiect rhwng Mawrth 1 a Mai 10 2019. Bydd pob cyllid yn cael eu cyfrifo ar sail £300 yr wythnos, a felly i uchafrif o £3,000 (am 10 wythnos).

Cynhyrchydd y Cyfryngau

Gan weithio’n agos at y Cyfarwyddwr, Cydlynydd y Cynhyrchiad, Cynhyrchydd y Digwyddiad a hefyd aelodau eraill y tîm Diffusion, mae’r rôl hon yn ffocysi ar ddogfennaeth, cynhyrchiant cynnwys a chynhyrchiad fideo, sioe sleidiau ac adnoddau eraill i adeiladu ymrwymiad y gynulleidfa ac i godi sylw at yr wyl ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.

Bydd y gwaith yn cynnwys:

  • Cynhyrchu a golygu fideos byr a chynnwys ar-lein i hybu digwyddiadau cyn ac yn ystod yr wyl
  • Cyd-weithio gyda’r Cyfarwyddwr, y Cynllunydd, a Chydlynydd y cynhyrchiad er mwyn sicrhau cysondeb o fewn steil ac ansawdd cynnwys y cyfryngau
  • Mynychu arddangosfeydd, digwyddiadau a chyfweliadau er mwyn arddangos adegau allweddol ac uchafbwyntiau yr wyl
  • Sicrhau bod cofnod cynhwysfawr o Diffusion 2019 yn cael ei ddarparu a bod deunyddiau clywedol a gweledol yn parhau i ddenu sylw y tu hwnt i’r digwyddiad ym mis Ebrill 2019 ei hun.

APPLY HERE