Arddangosfa / 4 Tach – 14 Ion 2023

FFOCWS

Ada Marino, Alice Durham, Billy H. Osborn, Dione Jones, Ed Worthington, Jack Winbow, Kerry Woolman, Laurentina Miksys, Laurie Broughton, Paris Tankard, Pinar Köksal, Ross Gardner

Rhagddangosiad o'r Arddangosfa: Dydd Iau 3 Tachwedd, 6-9pm

Yr artistiaid fydd â gwaith yn yr arddangosfa: Ada Marino, Alice Durham, Billy H. Osborn, Ed Worthington, Dione Jones, Laurentina Miksys, Laurie Broughton, Kerry Woolman, Jack Winbow, Pinar Köksal, Paris Tankard, Ross Gardner.

Mae Ffotogallery yn deall bod teimladau o ansicrwydd am y dyfodol yn gofidio a blino artistiaid sydd yn nyddiau cynnar eu gyrfaoedd, a bod adroddiadau am brinder cyfleoedd yn ychwanegu mwy o ansicrwydd i yrfa sy'n ddigon bregus yn barod, gan greu pwysau negyddol ar y meddwl. Mae bod yn artist yn ymwneud â mwy na deunyddiau, anghenion ac arferion - mae'n ymwneud â phrofi'r sefyllfa sy'n eich wynebu ar y pryd. Felly, mae Ffotogallery wedi ymrwymo i'w egwyddorion arweiniol o hyrwyddo gwell amrywiaeth ddiwylliannol, mynediad a chynhwysiad, dysgu gydol oes, arloesi a rhagoriaeth.

Mae Ffocws yn rhan o genhadaeth Ffotogallery i gefnogi artistiaid sy'n dechrau ar eu gyrfaoedd neu sy'n dechrau dod i'r amlwg. Ei nod yw arolygu'r graddedigion diweddar sydd wedi astudio'r celfyddydau gweledol yng Nghymru yn ogystal â chynnig cyfleoedd i'r rheiny sydd heb fod mewn addysg gelf a chreadigol ffurfiol. Trwy weithio mewn partneriaeth â sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, mae Ffotogallery yn cyflwyno gwaith deuddeg artist gwych sy'n herio'r broses a'r cyfrwng ffotograffig a chymhwysiad ffotograffiaeth. Mae Ada Marino, Alice Durham, Billy H. Osborn, Ed Worthington, Dione Jones, Laurentina Miksys, Laurie Broughton, Kerry Woolman, Jack Winbow, Pinar Köksal, Paris Tankard, a Ross Gardner yn creu gwaith sy'n ysbrydoli dehongliadau a safbwyntiau newydd. Yn ogystal ag arddangos eu gwaith yn sefydliad ffotograffig arweiniol Cymru, caiff yr artistiaid eu cefnogi gan raglen ddatblygu broffesiynol chwe mis wedi'i theilwra.

Meddai Cyfarwyddwr Ffotogallery Siân Addicott:

“Rydym wrth ein boddau yma yn Ffotogallery ein bod yn cael arddangos y detholiad gwych hwn o artistiaid dawnus sy'n dod i'r amlwg. Mae'r amrywiaeth o bynciau, technegau ac arddulliau unigryw yn ein harddangosfa'n amlygu dyfnder y creadigedd ffotograffig yma yng Nghymru.

Trwy gyfrwng Ffocws rydym yn ceisio darparu cyfleoedd rhwydweithio a chefnogi gyrfaoedd hanfodol sydd wedi eu teilwra i helpu'r artistiaid ar eu teithiau proffesiynol - yn enwedig ar y camau heriol hyn yn gynnar yn eu gyrfaoedd."

Hoffai Ffotogallery ddiolch i Brifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant / Coleg Celf Abertawe am eu cymorth hael i wneud yr arddangosfa hon yn bosibl.

Proffil Artistiaid

Portread o Ada Marino

Ada Marino

Artist gweledol o’r Eidal sy’n gweithio yng Nghymru yw Ada Marino. Yn anad dim, mae ei gwaith yn ffocysu ar gofion am ddigwyddiadau’r gorffennol, atgofion a thrawmâu sy’n ailymddangos, gan basio camlas ddofn o fewnsyllu, sy’n amlygu swrealaeth sinigaidd. Caiff ei gwaith ei gynrychioli ganan gyfuniad unigol o ffotograffiaeth a gosodweithiau. Yn aml, mae ei delweddaeth aflonyddol yn ceisio cysyniadu effaith ffieidd-dod/atyniad ac yn ceisio cyflwyno cysyniad ailwerthusiad hylltra, gan fyfyrio arno, mewn ffordd. Mae’n creu amrywiaeth gyda’r ffurf ffotograffiaeth esthetig ‘ansylweddol’ gan danseilio’r ffordd gyffredin i dynnu lluniau pethau, eu gweld a’u canfod, gan ddathlu’r harddwch mewn gwirionedd a diffygion bywyd.

Portread o Alice Durham

Alice Durham

Daw Alice Durham, sy’n ffotograffydd dogfen, o Swydd Hertford. Mae gwaith Durham yn deillio o’i diddordeb mewn seicoleg ac anthropoleg, wrth iddi archwilio mygfa emosiynau gan edrych yn benodol ar ei phrofiad o ddibyniaeth ac anhwylderau bwyta. Mae ei gwaith yn archwilio sut y gall ffotograffiaeth ein helpu i wneud synnwyr ohonom ni ein hunain ac eraill, yn benodol fel math o therapi. Mae ganddi ymagwedd reddfol at wneud delweddau, gan ddogfennu cyfarfyddiadau ar hap ac enydau mwy personol ei bywyd. Defnyddia Durham drosiadau i bortreadu gwrthdrawiadau mewnol a theimladau a rennir am y byd, gyda’r nod o wella dealltwriaeth am y cyflwr dynol.

Portread o Billy H. Osborn

Billy H. Osborn

Portread o Dione Jones

Dione Jones

Mae Dione Jones yn artist cyfryngau cymysg sy’n gweithio’n bennaf yn Ne Cymru gyda ffotograffiaeth a hunanbortread. Yn aml, mae gwaith Jones yn archwilio’r “hunan” gan ymdrin â themâu perfformiad cenedl, hunaniaeth, corff a newid trwy eu safbwynt a’u profiad eu hunain fel artist anneuaidd, cwiar.

Portread o Ed Worthington

Ed Worthington

Mae Ed Worthington wedi byw yng Nghaerdydd a’r cyffiniau gydol ei oes. Mae’n tynnu lluniau yng nghyfrwng ffilm 120 a 35mm ac mae’n credu mai un o’r agweddau pwysicaf ar ffotograffiaeth yw dogfennu ciplun o’n hamser byr yn y byd a gadael cofnod diriaethol ar ein holau i genedlaethau’r dyfodol ei ddarganfod.

Daw o hyd i ysbrydoliaeth mewn minimaliaeth a chysyniad llenyddol Realaeth Hudol lle mae’r rhyfeddol a’r normal yn cyd-fodoli. Mae ei brosiect “It’s Allright Around Here, Isn’t It?” yn ceisio cyfuno’r rhain trwy gipio tirlun dinas sy’n newid ond gan danysgrifio i’r syniad bod yna harddwch i’w weld mewn cyffredinedd, o dan yr arwyneb.

Portread o Jack Winbow

Jack Winbow

Gan dynnu lluniau ohonof i fy hun yn bennaf, rydw i’n archwilio’r ffiniau caeth y mae’r ddeuaidd genedl yn eu cadarnhau yn y zeitgeist ac mewn hanes. Yn berson cwiar a gafodd ei aseinio’n wryw adeg genedigaeth, mae cenedl, mynegiant a hunaniaeth wedi bod yn ffactorau sylweddol yn fy mywyd erioed. Gan ddefnyddio fformat hunanbortread, rwy’n cyfathrebu a sefydlu fy nhaith bersonol gyda chenedl a’r emosiynau a’r hwyliau mae’r syniad o ddeuaidd yn eu creu. Gan amlygu fy nhrafferthion personol fy hun a’m cwest parhaus i ddeall fy nghenedl canfyddedig fy hun, fy nod yw rhoi mewnwelediad i ideoleg person cwiar.

Portread o Kerry Woolman

Kerry Woolman

Rydw i’n ffotograffydd ffasiwn sy’n arbenigo mewn erthyglau golygyddol, dillad chwaraeon a gwaith stiwdio. Wedi graddio’n ddiweddar o’r BA (Anrh) Ffotograffiaeth ym Mhrifysgol De Cymru, rwy’n gyffrous i ddarganfod, datblygu a rhannu ymhellach gwaith sydd wedi’i seilio ar fy nghanfyddiad o’r byd ac unigolion.

Ers darganfod chwilfrydedd parhaus ynghylch y ffordd y caiff unigolion eu heffeithio gan y byd a’u rhyngweithiad gydag ef, rwy’n tueddu i arbrofi gyda ffotograffiaeth berfformiadol a yrrir gan emosiwn sy’n dod â delweddau ffres a gwahanol i’r diwydiant ffasiwn. Gyda llygad craff, creadigol am liw a manylder, rwy’n creu delweddau trwy lygad chwareus, cyfoes.

Portread o Laurentina Miksys

Laurentina Miksys

Mae’r geiriau a ddefnyddiwyd i ddisgrifio portreadau gan y ffotograffydd Laurentina Miksys yn cynnwys cyfoethog, diamser, ac emosiynol fynegiannol. Pan fydd ganddynt enaid, bydd delweddau’n caniatáu i’n sensitifrwydd ymgysylltu â’r pwnc a chreu empathi gyda’r hyn a welwn. Mae’n credu bod yr ymdeimlad yma o gyswllt yn newid ein cyflwr meddwl. O ganlyniad, mae ei ffotograffiaeth yn archwilio gwahanol lefelau o realiti: realiti pwy neu beth a ddisgrifir gan y ddelwedd a realiti profiad a theimlad – p’un a yw’r pwnc yn eiddo’r syllwr, neu hi ei hun. Dyma a ddown ni i’r ddelwedd ac, ar ôl ei drawsnewid, y byddwn yn ei gymryd i ffwrdd gyda ni.

Portread o Laurie Broughton

Laurie Broughton

Mae Laurie Broughton yn ffotograffydd Dogfen Gymdeithasol o Lundain. Graddiodd yn ddiweddar o raglen Ffotograffiaeth Ddogfennol ym Mhrifysgol De Cymru.

Mae arfer Laurie yn archwilio themâu sy’n ymwneud ag isddiwylliant, tai cymdeithasol a’r amgylchedd. Trwy ymchwil a threulio amser gyda’i bynciau, ei nod yw ei herio ei hun i edrych o dan arwyneb syniadau rhagdybiedig hunaniaeth a’i stereoteipiau diwylliannol, trwy drochi ei hun yn y cymunedau mae’n tynnu eu lluniau a hynny’n aml dros gyfnodau maith.

Mae ei waith yn cwestiynu safbwyntiau hen ffasiwn ar gymunedau i herio normau cymdeithasol drwy wneud delweddau trochol.

Portread o Paris Tankard

Paris Tankard

Mae Paris Tankard yn artist du, 21 oed o Dagenham, Essex, sydd wedi ennill gwobrau. Yn aml, mae eu gwaith yn edrych ar aelodau ein cymdeithas ac yn ceisio eu dyrchafu, gan ffocysu ar faterion fel Hil, Rhywioldeb a Dosbarth. Nod gwaith Paris yw creu dialog a/neu sgwrs ar gyfer unrhyw unigolyn – ni waeth beth fo’u hunaniaeth – a allai ymgysylltu ag ef. Elfen arall o’u gwaith sydd yr un mor bwysig yw dogfennu digwyddiadau ac enydau ffurfiannol o fywydau pobl, sydd wedi’i gysyniadu yn eu prosiect mwyaf diweddar: dogfennaeth o fywydau pobl cwiar o liw.

Mae Paris wedi arddangos eu gwaith creadigol mwyaf diweddar yn y Free Range Gallery yn Shoreditch, Llundain. Enillodd y prosiect y teitl ‘y gorau yn y sioe’ yn y gwobrau AOP. Mae Paris yn dal i ddilyn eu celf yng Nghaerdydd.

Portread o Pinar Köksal

Pinar Köksal

Ganed Pinar Koksal yn Nhwrci yn 1988. Mae hi’n gweithio yng Nghaerdydd. Cafodd ei gradd dylunio cyfathrebu gweledol yng Nghyfadran Celfyddydau Cain Prifysgol AHBV. Caiff ei gwaith ei ysbrysoli gan ei hymholiadau i swyddogaethau’r bydysawd, y cysylltiad rhwng bodau dynol a’r bydysawd, eu lle yn y bydysawd a chylchoedd bywyd wedi’u seilio ar ailadrodd diddiwedd. Weithiau mae ffotograffiaeth, y mae hi’n ei ddefnyddio fel defnydd wrth gynhyrchu ei gwaith celf, yn ymddangos o’i blaen fel enghraifft gwbl gadarn o atgof personol ac weithiau mae’n agor drysau gwahanol iddi gyda’r ffurfweddau hap yn digwydd o ganlyniad i’w hymyriadau arbrofol ar ffilmiau analog.

Arddangosir ei gwaith yn arddangosfeydd ‘Young Fresh Different 11’, Oriel Zilberman,

Istanbwl (2022); ‘Nightswimming’, Amgueddfa Evliyagil, Ankara (2021); ‘Mamut Art Project’, Yapı Kredi Bomonti Ada, Istanbwl (2020) a ‘Habitat’, Ka Atelier, Ankara (2019). Mae ganddi lyfr artist o’r enw ‘Pale Blue Dot’ a gynhyrchwyd yn dorfol ac a arddangoswyd ym Mhrosiect Celf Mamut (2020). Yn aelod o Faz Collective, Pinar Koksal oedd un o guraduron y set ffotograffau ‘Photozine #3’ a ‘Photozine #4’ a gynhyrchwyd ar y cyd â Fail Books a Faz Collective yn 2021. Hefyd, cymerodd ran yn set ffotograffau ‘Photozine #4’ gyda’r gyfres ‘Return to the Womb’.

Portread o Ross Gardner

Ross Gardner

Daw’r ffotograffydd Ross Gardner o arfordir gorllewinol yr Alban. Gan gymryd ysbrydoliaeth yn aml o ystrydebau ffuglen wyddonol a damcaniaethau cynllwyn, mae Gardner yn cwestiynu sut mae’r rhain yn perthnasu i’r byd o’i gwmpas. Gan weithio gyda’r ddelwedd ffotograffig, ochr yn ochr â delweddaeth archifol a sgrîn, archwilia Gardner themâu sy’n gysylltiedig â thechnoleg, y dyfodol, a deinameg grym byd-eang. Ceisia archwilio a datgelu pynciau sy’n bodoli ar ymylon gwirionedd, gan gwestiynu’r rhan y mae’r ffotograff wedi’i chwarae yn y pynciau hyn.