Digwyddiad / 22 Tach – 24 Tach 2022

Gweithdai Artistiaid Ffocws

Estynnwn wahoddiad cynnes i chi i ymuno â ni ar gyfer cyfres o weithdai ar-lein gyda’r deuddeg artist a ddewiswyd ar gyfer Ffocws.

Dydd Mawrth 22 Tachwedd 2 - 4pm

Ed Worthington, Kerry Woolman, Laurie Broughton, a Paris Tankard

Dydd Mercher 23 Tachwedd 2 - 4pm

Ada Marino, Pinar Köksal, Ross Gardner, a Laurentina Miksys

Dydd Iau 24 Tachwedd 2 - 4pm

Alice Durham, Dione Jones, Billy H. Osborn, a Jack Winbow

Mae Ffocws yn rhan o genhadaeth Ffotogallery i gefnogi artistiaid sy’n dod yn gynyddol amlwg ac sydd ar gam cynnar yn eu gyrfaoedd.

Mae’r gweithdai artistiaid ar-lein hyn yn gyfle i sgwrsio â’r artistiaid a dysgu ganddynt am eu harferion. Bydd pob un o’r deuddeg artist a ddewiswyd ar gyfer Ffocws yn siarad am eu gwaith.

Y nod ar gyfer y gweithdai yw datblygu lleoedd i gael trafodaethau beirniadol a chreu deunyddiau sy’n cefnogi dealltwriaeth pobl o’r gwaith sy’n cael ei gynhyrchu gan artistiaid gweledol yn byw yng Nghymru, neu’n hannu ohoni, sydd ar gam cynnar yn eu gyrfa ac sy’n dod yn gynyddol amlwg.

Ymysg y cwestiynau a fydd yn cael eu gofyn bydd y rhain:

• Sut ydych chi’n meddwl y gallai artistiaid a sefydliadau/mudiadau fod yn fwy agored â’i gilydd?

• Ydych chi’n difaru nad oeddech yn gwybod am y diwydiant celfyddydau gweledol cyn i chi gychwyn? A pha gyngor allech chi ei gynnig i’ch cymheiriaid?

• Sut allwn ni sicrhau bod cynulleidfaoedd yn cael mewnwelediad, dealltwriaeth ac ystyr go iawn o’ch gwaith.

• Beth yw rhai o’r profiadau a’r heriau y mae artistiaid sy’n gynnar yn eu gyrfaoedd yn eu cael neu’n eu hwynebu wrth weithio fel artistiaid gweledol heddiw?

Mae’r gyfres hon o weithdai’n digwydd ar-lein drwy Zoom. Maen nhw’n agored i bawb ac yn rhad ac am ddim, ond mae’n rhaid cadw lle o flaen llaw. Byddwn yn e-bostio manylion ynglŷn â sut i ymuno â’r gweithdai ar-lein yn agosach at y dyddiad.

Os oes gennych unrhyw ofynion mynediad, cysylltwch ag Alex Butler ar [email protected] cyn y digwyddiad ac fe wnawn ein gorau i ddarparu’r cymorth perthnasol.