Ffotogallery Platform
Mae Platfform Ffotogallery yn brosiect ar-lein a grëwyd i helpu ffotograffwyr ac artistiaid addawol yng nghyfryngau'r lens i ddenu cynulleidfa ehangach i’w gwaith – cynulleidfa a fydd yn cynnwys gweithwyr proffesiynol y diwydiant a chyfoedion yn rhwydwaith Ffotogallery. Bydd hefyd yn fodd i helpu i greu cysylltiadau oddi mewn i'r gymuned ffotograffig ac artistig. Bydd cyfranogwyr dethol yn cael cynnig preswyliad wythnos o hyd ar gyfrif Instagram Platfform Ffotogallery.
Y Platfform ei lansiwydd ym mis Ionawr 2018 yn rhan o 40:40 Vision, rhaglen blwyddyn o hyd o arddangosfeydd, prosiectau a digwyddiadau i ddathlu pen-blwydd Ffotogallery yn 40 oed. Os hoffech chi gymryd rhan, e-bostiwch amlinelliad byr o brosiect posib ynghyd ag ambell enghraifft o'ch gwaith at phil@ffotogallery.org.
Dilyn @ffotogalleryplatform