Arddangosfa / 1 Ebr – 30 Ebr 2019

Foley Objects / Arr. for a Scene

Jonna Kina

Foley Objects / Arr. for a Scene
© Jonna Kina
Foley Objects / Arr. for a Scene
© Jonna Kina

Mae’r gyfres Foley Objects yn chwarae gêm o synesthesia. Mae’r gwaith yn cynnwys lluniau o wrthrychau gwahanol iawn i’w gilydd. Mae gan y rhain benawdau sy’n cynnig diffiniadau sy’n ymddangos yn hollol ddigyswllt â’r gwrthrychau. Ar ôl astudio’r llun, daw’r syllwr i ddeall bod y geiriau’n cyfeirio at y sain a gynhyrchir gan y gwrthrychau yn y lluniau, eu bod nhw’n rhoi cyfeiriad meddyliol i ni at brofiad sydd heb gysylltiad o gwbl â’r llun.

Mae Kina wedi casglu gwrthrychau gan amrywiol gynllunwyr sain ac artistiaid Foley. Gallwch ystyried y casgliad hwn o luniau’n archif o seiniau, yn ogystal â dawns rhwng y dogfennu a chwarae disynnwyr.

-

Mae Arr. for a Scene yn dogfennu dau artist Foley pan oeddent yn cynhyrchu seiniau ar gyfer un o’r golygfeydd ffilm enwocaf yn hanes ffilm (golygfa’r gawod yn Psycho Alfred Hitchcock, 1960). Mae’r perfformiad yma wedi’i ddogfennu ar ffilm 35 mm. Nid yw golygfa wreiddiol y ffilm i’w gweld ac mae’r gwyliwr yn gweld dim byd ond yr artistiaid Foley yn creu effeithiau sain ar gyfer yr olygfa, megis y sŵn traed, y gawod a drws yn cau. Mae’r ffilm yn archwilio’r ffordd y mae seiniau’n cael eu hadeiladu i’w defnyddio yn y sinema a beth sy’n digwydd pan fydd strwythur ffilm yn cael ei ddatgymalu’n rhannau.

2017, ffilm 35 mm wedi’i drosglwyddo i 4K/HD, 5 munud 18 eiliad, stereo / 5.1

Proffil Artist

Portread o Jonna Kina

Jonna Kina

Mae gwaith Jonna Kina (a aned yn 1984) yn sefyll yn aml iawn ar y gyffordd rhwng sain, iaith a llun. Mae hi’n arddangos ei chanfyddiadau gydag iaith sy’n farddonol ond sydd hefyd yn weledol wrthrychol ac mae’n sbarduno ac yn herio’r gwyliwr i feddwl yn feirniadol am yr hyn sy’n cael ei gyflwyno iddynt.
Graddiodd Kina o Academi Gelf y Ffindir ac o Brifysgol Aalto, Ysgol y Celfyddydau, yr adran ffotograffiaeth. Mae hi hefyd wedi astudio yn yr Ysgol Celfyddydau Gweledol, Efrog Newydd ac yn Academi Celf a Dylunio Bezalel, Jerwsalem. Mae gwaith Kina wedi ymddangos yn eang mewn nifer o arddangosfeydd a gwyliau ffilm, megis Amgueddfa Gelf Ffotograffig Tokyo; Amgueddfa Celfyddyd Fodern Espoo EMMA; Galleria delle Carrozze di Palazzo Medici Riccardi, Fflorens; Dunkers Kulturhus, Helsingborg; Musée de l’Elysée, Lausanne; Gŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Rotterdam; Sefydliad Hasselblad, Gothenburg; ac yn ddiweddar yn 6ed Biennale Moscow i Gelfyddyd Ifanc, wedi’i guradu gan Lucrezia Calabro Visconti. Dewisodd Nordisk Panorama ffilm Kina “Arr. for a Scene” fel y “Ffilm Fer Nordig Orau”. Hefyd, cafodd ei rhoi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Caffaeliad Talent Ifanc VISIO yn Fflorens. Mae gweithiau Kina i’w cael mewn casgliadau mewn mannau megis Musée de l’Elysée, Fundación RAC – Sefydliad Celfyddyd Gyfoes, Amgueddfa Celfyddyd Gyfoes Kiasma, Amgueddfa Gelf Dinas Helsinki, Sefydliad Saastamoinen, Dinas Levallois, Ffrainc, Amgueddfa Ffotograffiaeth y Ffindir ymysg eraill.