Prosiect

Presenoldeb Cudd

Presenoldeb Cudd
© Claire Kern

Partneriaeth rhwng Amgueddfa Cas-gwent, Prifysgol Gorllewin Lloegr a’r artist Eva Sajovic oedd prosiect ‘Presenoldeb Cudd’. Gwahoddwyd disgyblion ysgol ac aelodau grwpiau cymunedol o Sir Fynwy, Caerdydd a Glyn Nedd i greu gweithiau celf wedi’u hysbrydoli gan hanes Nathaniel Wells ar gyfer arddangosfa a phlatfform arlein rhyngweithiol.

Roedd Nathaniel Wells yn fab i berchennog caethweision a chaethferch. Trwy gyfres o ddigwyddiadau anhygoel yn y 19eg ganrif, fe deithiodd o blanhigfeydd siwgr India’r Gorllewin i Brydain lle gwnaeth ffortiwn sylweddol ac ennill statws a bri cymdeithasol. Ysbrydolwyd ‘Presenoldeb Cudd’ gan ystyriaethau moesol cymleth hanes bywyd Nathaniel Wells. Mae’r prosiect yn cynnig her greadigol i’r syniad bod caethwasanaeth ac ymelwa ar lafur pobl ledled y byd yn rhywbeth sy’n perthyn i orffenol pell yn hytrach na phroblem sy’n dal i effeithio bywydau bob dydd yma yng Nghymru.

Cafodd y prosiect ei greu ar y cyd gyda phlant a phobl ifanc fregus o Dde Ddwyrain Cymru. Defnyddiwyd ffotograffiaeth ac adnoddau digidol fel cyfryngau i archwilio dealltwriaeth y disgyblion o sut cafodd hanes a chaethwasiaeth ddylanwad ar y byd sydd o’u cwmpas, a sut siapiodd hynny ein cymdeithas gyfoes ni heddiw.