Arddangosfa / 28 Hyd – 15 Rhag 2017

Land/Sea

Mike Perry

Land/Sea
Burnt Gorse, Preseli Hills, Pembrokeshire, Wales, 2005 © Mike Perry
Land/Sea
Trunk, Craig Goch Reservoir, Elan Valley, Powys, Wales, 2015 © Mike Perry

Mae Tir/Môr  yn arddangosfa newydd o bwys gan yr artist o Gymru, Mike Perry, a gyflwynir gan Ffotogallery ar y cyd â llyfr newydd. Mae gwaith Perry yn ymwneud â materion amgylcheddol arwyddocaol ac argyfyngus, y tensiwn rhwng gweithgareddau ac ymyriadau dynol yn yr amgylchfyd naturiol ac â breuder ecosystemau’r blaned.

 Yn ei gyfres barhaus Wet Deserts, mae Perry yn archwilio effeithiau negyddol tir monoddiwylliant, tyfu gor-ddwys, a’r broses o ‘ail-wylltu’ er mwyn galluogi i fyd natur adfer ei bioamrywiaeth. Mae Perry, sy’n ymateb i ddisgrifiad George Monbiot o’r tirwedd gwledig fel ‘shadowland, a dim, flattened relic of what there once was’, yn credu bod angen herio ‘dogma busnesau amaethyddol mawrion’, a pholisi amaethyddol anghynaladwy drwy feddwl o’r newydd am yr hyn sydd yn llesol i’r ysbryd dynol, i fioamrywiaeth ac i’r blaned.

 Ar y cyd â gweithiau o Wet Deserts, mae Tir/Môr yn cynnwys gweithiau o’r gyfres Môr Plastig, lle aeth Perry ati i gasglu ac i dynnu lluniau fforensig o fanwl o wrthrychau plastig fel poteli, esgidiau a phecynnau a olchwyd i’r lan ar draethau gorllewin Cymru. Mae’n ein gwahodd i ystyried effeithiau amgylcheddol prynwriaeth a grym erydol natur.

 Yn Biennale Fenis 2015, yn rhan o arddangosfa pafiliwn Azerbaijan, Vita Vitale, gosododd Perry gabinet yn llawn o plastigarneddau – cerrig, hynny yw, yn cynnwys plastig wedi toddi, ynghyd â thywod, cregyn a gwaddod eraill y cafodd hyd iddynt ar y traeth. Roedd y gwrthrychau fel petaent wedi integreiddio’n berffaith â’n hecosystemau morol, ac roeddent yn wahoddiad i ystyried materoldeb newydd ein hamgylchfyd a’i alluoedd technolegol. Dros y pum mlynedd diwethaf, mae’r artist wedi casglu ynghyd ddetholiad helaeth o’r gwrthrychau hybrid synthetig / naturiol hyn ac wedi tynnu lluniau unigol ohonynt. Yn aml, caiff y delweddau hyn eu casglu ynghyd ar ffurf gridiau ffurfiol.

 Wedi’i ysbrydoli gan finimaliaeth y 1960au / 70au, mae ffotograffiaeth Perry yn osgoi rhethreg ymgyrchol ffotograffiaeth ddogfennol amgylcheddol draddodiadol. Yn hytrach, mae’n cyfeirio’n farddonol at yr hyn yr ydym yn ei adael i genedlaethau’r dyfodol, gan ychwanegu naratif cyfoes at yr haniaethau minimalaidd. Yn ôl yr artist:

“Fy mwriad yw tynnu sylw at y gwrthrychau hyn mewn cyflwr ffurfiol bur; eu gwacau am ennyd o unrhyw ystyr y tu hwnt i’w presenoldeb cerfluniol. Dw i’n cyflwyno’r gwrthrychau fel gridiau neu mewn dilyniant llinellol er mwyn pwysleisio’r dewis anhygoel sydd gennym fel prynwyr ac er mwyn creu fframwaith esthetig lle gall lliwiau a ffurfiau weithio gyda’i gilydd.”

Mae Tir/Môr yn un o Arddangosfeydd Teithiol Ffotogallery, ac fe’i curadwyd gan David Drake a Ben Borthwick.

Proffil Artist

Portread o Mike Perry

Mike Perry

Mae ffotograffau Mike Perry yn archwilio’r rhyngweithiad rhwng tirweddau, natur a’r gymdeithas ddiwydiannol. Yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf mae wedi canolbwyntio ei ymarfer ar Barciau Cenedlaethol Prydain – ac yn gynyddol ar amgylchedd ei filltir sgwâr yn Sir Benfro, lle mae’n byw a gweithio – gan gwestiynu’r fytholeg ramantaidd sy’n cyflwyno’r parciau cenedlaethol fel manau gwyllt o harddwch naturiol. Mae’n defnyddio ffotograffiaeth fformat mawr i gyfleu naws arlunyddol a harddwch esthetig arwyneb y tirlun gan ddangos ar yr un pryd yr effaith y mae pobl wedi ei gael wrth ymelwa ar natur er budd masnachol. Mae ei gyfres o ffotograffau llai (graddfa 1:1) yn dangos effeithiau prosesau naturiol ar arwyneb deunyddiau a gynhyrchwyd drwy brosesau diwydiannol. Wrth drafod y tensiwn rhwng ansawdd arwynebol-ddeiniadol a chynnwys cythryblus ei waith, mae’n dweud: ‘..yn ogystal ag amlygu’r gorddefnydd a’r llygredd, maent hefyd yn dangos gallu natur i siapio ein byd – pa un a ydym ni, fel pobl, yma neu beidio’.