Prosiect

Bocsgolau

Mae Bocsgolau yn adnodd ar-lein o bwys i Athrawon Celfyddyd a Dylunio a phobl ifainc yng Nghymru. Mae’n ganlyniad tair blynedd o waith ymchwil ac ymgynghori ag ysgolion ac athrawon celf ledled Cymru a chydweithrediad â’r bwrdd arholi a GCaD. Yn weledol gyffrous ac yn llawn cyfleoedd addysgol, mae’n hyrwyddo defnydd creadigol o dechnolegau digidol, ffotograffiaeth a delweddau symudol yng nghyd-destun y cwricwlwm.

Mae’r adnodd yn darparu cyngor, hyfforddiant ac ysbrydoliaeth i athrawon a disgyblion mewn tri chategori:

Dysgu – taith dywysedig trwy gyfoeth o gelfyddyd weledol a gwaith dylunio ar-lein – artistiaid, orielau ac adnoddau o Gymru a phedwar ban byd

Asesu – cymorth wrth asesu celfyddyd arloesol a gwaith dylunio gan fyfyrwyr TGAU a Lefel A

Cynnydd – mynd i’r afael â’r bwlch sgiliau rhwng byd addysg a gyrfaoedd yn y diwydiannau creadigol. Gwybodaeth a hyfforddiant ar gyfer athrawon a ffilmiau byrion yn cyflwyno artistiaid a dylunwyr Cymreig sy’n rhoi cyngor gyrfaol.