One Match
Paul John Roberts
Mae'n bleser o'r mwyaf gennym eich gwahodd i ymuno â ni i fwynhau rhagolwg arbennig o'r arddangosfa newydd 'One Match' yn Ffotogallery, o 6pm ar ddydd Gwener 26 Gorffennaf 2019 yn 29 Stryd y Castell, Caerdydd, CF10 1BT.
Bydd Cwpan y Byd i'r Digartref, sydd yn ei 17eg flwyddyn erbyn hyn, yn cychwyn yng Nghaerdydd ar Gorffennaf 27ain 2019 ac yn dod ag oddeutu 500 o chwaraewyr o bob cwr o'r byd i brifddinas Cymru. Mae'r ffotograffydd Paul John Roberts wedi bod yn dilyn hynt chwaraewyr a hyfforddwyr Cymru yn yr wythnosau sy'n arwain at y gystadleuaeth, gan ddangos y treialon, y trafferthion a'r dathliadau, yn ogystal â thynnu sylw at y manteision cymdeithasol y gall Cwpan y Byd i'r Digartref eu rhoi i bobl. Mae'r arddangosfa 'One Match', a gefnogir gan Ffotogallery, yn gobeithio gwneud pobl yn fwy ymwybodol o unigolion sy'n wynebu digartrefedd, a herio'r ystrydebau negyddol y mae cymdeithas yn eu priodoli iddynt.
Trwy bêl-droed, mae'r bobl sydd yn y lluniau yng ngwaith Roberts yn dod yn aelodau o'r un tîm sy'n dysgu i rannu ac ymddiried. Mae ganddynt gyfrifoldeb i fynd i sesiynau hyfforddi a gemau, i fod yn brydlon ac yn barod i gymryd rhan. Maent yn teimlo eu bod yn rhan o rywbeth sy'n fwy na nhw eu hunain. O'r stryd i'r stadiwm, mae'r teimlad grymus y maent yn ei gael o gymryd rhan yn y gemau'n eu helpu i weld eu bod yn gallu newid eu bywydau.
Bu Paul John Roberts yn siarad am ei amser yn gweithio ar y prosiect:
"Roeddwn i'n gwybod na fyddwn i'n gallu cynnwys popeth yn y gwaith, ond y gallwn geisio gweld yn fwy dwfn i mewn i straeon y chwaraewyr drwy siarad gyda phawb yr oeddwn yn eu cyfarfod, gan ddogfennu tafellau bach o'u harferion pob dydd a gwylio'r munudau bach personol, a chysylltu cystadleuaeth Cwpan y Byd i'r Digartref gyda'r bobl sy'n rhoi grym iddi drwy eu bywydau.
Rwyf wedi profi hapusrwydd mawr ac anobaith llwyr yn ystod y prosiect yma. Mae'n ysgogi myfyrdod a hunan-ymholi ynof am y ffordd y mae pobl yn taflu o'r neilltu ein hadnodd mwyaf gwerthfawr, ni ein gilydd,"
Dyma ddywedodd yr actor a'r actifydd Michael Sheen, a arweiniodd y bid llwyddiannus i Gymru gynnal y gystadleuaeth eleni:
“Mae'r gweddnewid a welwn yn y chwaraewyr, sy'n troelli o amgylch y pêl-droed, yn ysbrydoliaeth gref ac yn rhywbeth y gallwn oll gyfrannu'n bositif tuag ato. Mae'r cae pêl-droed yn gweithio orau pan fyddwn oll yn helpu ein gilydd. Mae bywyd yr un fath. Dydy digartrefedd ddim yn rhywbeth sy'n gysylltiedig â’r 'bobl eraill'. Mae'n ymwneud â 'ni'! Mae gennym gyfrifoldeb i'n helpu ein gilydd."
Bydd 'One Match' yn arddangos o 27ain Gorffennaf hyd 10fed Awst yn y sioe olaf i Ffotogallery ei chynnal yn ei leoliad yn Stryd y Castell am ei fod wedi sefydlu ei gartref tymor hir yn Cathays erbyn hyn, a fydd yn agor i'r cyhoedd ym mis Medi 2019.
Proffil Artist

Paul John Roberts
Mae Paul John Roberts, sydd wedi'i seilio yn Ne Cymru, yn ffotograffydd sy'n gweithio'n rhyngwladol, gyda ffocws ar Brydain, Ffrainc a Sbaen. Mae'n arbenigo mewn ffotograffiaeth perfformiad a phortreadau masnachol, golygyddol a dogfennol. Mae ei weithiau diweddar wedi cynnwys ‘Submission, Suffering and Ecstasy’, a arddangoswyd yn Reggio Emilia, Yr Eidal, a ‘Sepsis Story’, pan fu'n gweithio gydag Ymddiriedolaeth Sepsis y DU i helpu i godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr hwn er mwyn arbed bywydau, gwella canlyniadau i oroeswyr a chefnogi'r rheiny sydd wedi eu heffeithio gan sepsis.