Digwyddiad / 29 Ebr 2021

Ffotograffiaeth a Lles

Ffotograffiaeth a Lles
© Mary Farmilant
Ffotograffiaeth a Lles
© Suzie Larke

Ar Ddydd Iau 29 Ebrill am 2 pm, hoffem estyn gwahoddiad cynnes i chi i ymuno â ni ar gyfer y nesaf yn ein cyfres o drafodaethau ar-lein, Ffotograffiaeth a Lles. Derbynnir yn eang bod mwynhau’r celfyddydau a chyfranogi ynddynt yn gallu gwella lles corfforol a meddyliol person yn ddramatig, a mwy felly yn y flwyddyn ddiwethaf pan mae llawer o unigolion wedi troi at weithgareddau creadigol i ymdopi â’r pandemig Covid-19.

Bydd Mary Farmilant yn ymuno â ni ar y diwrnod i gyflwyno ei chyfres ‘See You on the Other Side’, ac yn dilyn hynny bydd Suzie Larke yn trafod â’r seicolegydd cwnsela Dr Annie Beyer, am ei phrosiect diweddaraf ‘Unseen’. Byddwch hefyd yn clywed am brosiect Art by Post Southbank Llundain sy’n dod â gweithgareddau celfyddyd weledol a barddoniaeth yn rhad ac am ddim i’r bobl sy’n fwyaf ynysig oherwydd y mesurau cadw pellter cymdeithasol presennol.

Mae Mary Farmilant yn artist gweledol wedi ei seilio yn Chicago sy’n gweithio mewn ffotograffiaeth, fideo a sain ac a dderbyniodd ei gradd mewn nyrsio cyn troi at ffotograffiaeth. Mae ‘See You on the Other Side’ yn ymdrin â phrofiadau emosiynol a llafar cymhleth ar ôl iddi dderbyn diagnosis salwch sy’n bygwth ei bywyd.

Mae Suzie Larke yn artist gweledol a ffotograffydd sydd wedi ei seilio yng Nghaerdydd, DU. Mae ei gwaith personol yn defnyddio ffotograffiaeth gysyniadol i archwilio themâu hunaniaeth, emosiwn, a’r cyflwr dynol. Yn ‘Unseen’, mae hi’n defnyddio agwedd gydweithredol tuag at ffotograffiaeth i ddangos profiadau gwahanol unigolion o amrywiol gefndiroedd sy’n cael trafferthion gyda’u lles meddyliol.

Nodwch os gwelwch yn dda y bydd y digwyddiad hwn ar Zoom. Os oes gennych unrhyw ofynion er mwyn gallu bod yn rhan o’r digwyddiad, anfonwch e-bost at [email protected] cyn y digwyddiad os gwelwch yn dda, ac fe wnawn ein gorau i helpu.