Digwyddiad / 17 Meh 2022

Sesiwn Holi ac Ateb: Dewis Gymunedau

Oes gennych chi ddiddordeb mewn canfod rhagor am alwad agored Ffotogallery a Chennai Photo Biennale, Dewis Gymunedau, a wnaed yn bosibl gan y British Council?

Ymunwch â ni i gael sesiwn Holi ac Ateb anffurfiol ar zoom ar Ddydd Gwener 17eg Mehefin, am 12.30 pm GMT neu 5pm IST.

Mae’r prosiect hwn yn rhan o Dymor Diwylliant India/DU Ynghyd gan y British Council sydd newydd ei gyhoeddi, sy’n dathlu’r berthynas hirsefydlog rhwng y ddau.

---

Ar hyn o bryd, rydym yn dechrau ailfeddwl am ein syniadau o gymuned, a chydgyfrifoldeb a gofal. Er bod digwyddiadau’r byd heddiw’n ymddangos mor dorcalonnus, mae’r ddynoliaeth wedi cymryd camau breision ymlaen o ran goddefgarwch, cynhwysiad, a chydraddoldeb. Am ein bod yn byw mewn cyfnod o newid cymdeithasol a gwleidyddol dramatig, mae rhai ohonom yn teimlo’n fwy dewr i fynd i’r afael â rhai o’r cwestiynau dirfodol – Ydyn ni’n perthyn i un gymuned, neu i nifer? Oes gennym y fraint o ddewis ein cymunedau neu oes raid i ni ddilyn y dewisiadau sy’n cael eu gwneud i ni?

Estynnwn wahoddiad i artistiaid amlddisgyblaethol sy’n gweithio gyda chyfryngau’r lens, ffotograffiaeth a ffilm i ymholi ymellach i’r syniad o ‘Ddewis Gymunedau’.

Mae’r alwad agored hon am artistiaid a chydweithfeydd sy’n defnyddio eu celf i greu a datblygu cyrff o waith sy’n mynegi eu barn a’u sylwadau ynglŷn â pherthyn a chynhwysiad. Rydym yn croesawu cyflwyniadau am y themâu a ganlyn (ond mae croeso i themâu eraill hefyd):

  • rhywedd
  • anabledd
  • gwleidyddiaeth
  • lluniadau hil/cast
  • hunaniaeth
  • cymunedau cynaliadwy
  • dosbarth

Mae’r cyfle hwn yn agored i bawb ac anogwn geisiadau’n arbennig gan gymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.