Arddangosfa / 21 Meh – 24 Meh 2022

Wythnos Ffoaduriaid: Arddangosfa Ffotograffiaeth Restore yn Oasis

Mae Oasis Caerdydd a Ffotogallery yn eich gwahodd i "Restore", sef arddangosfa ffotograffiaeth sy’n arddangos y dalent sy’n datblygu yng Nghymru.

Rydym wedi creu corff o waith ar gyfer yr arddangosfa a bwriadwn ei chymryd ar daith o amgylch Cymru yn y misoedd sy’n dod. Cafodd hon ei chreu gan Ffotogallery ac artistiaid gweledol o amgylch y byd, a bydd y dangosiad cyntaf yn ystod yr Wythnos Ffoaduriaid.

Cafodd y gwaith ei greu gan ffotograffwyr sydd â phrofiad byw o’r Broses Lloches, felly mae’r gwaith yn archwilio’r themâu hyn heb esboniad, yn ogystal â syniadau am ddechrau o’r newydd, cartrefi newydd a bywydau newydd.

Mae’r arddangosfa yn debygol o ehangu dros amser, gan gyfeirio at ragor o themâu a dweud gwahanol straeon, am fod hwn yn gorff parhaus o waith.

Mae’n bleser mawr gennym barhau ein partneriaeth ag Oasis yn rhan o’n rhaglen ymgysylltiad cymunedol.

Bydd Restore ar gael i’w fwynhau o Ddydd Mawrth 21 Mehefin hyd Ddydd Gwener 24 Mehefin 10am - 4pm (8pm ar Ddydd Gwener) ac yn digwydd yn Oasis Cardiff, 69b Splott Rd, Y Sblot, Caerdydd CF24 2BW

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!