Arddangosfa / 26 Hyd – 8 Rhag 2018

Reprise

Katrien De Blauwer

Reprise
© Katrien De Blauwer

Hoffem estyn gwahoddiad i chi ymuno â ni ar gyfer rhagolwg arbennig o Reprise, 6-9pm, Gwener 26 Hydref yn Ffotogallery, Tŷ Turner, Penarth.

Mae Reprise yn cyflwyno gwaith o bob cyfnod o yrfa Katrien De Blauwer, gan gynnwys gweithiau cynnar sy’n cael eu dangos yma am y tro cyntaf, llyfrau nodiadau’r artist a’i gweithiau mwyaf diweddar sy’n cyfuno paentio a ffotograffiaeth. Wrth guradu’r arddangosfa ry’n ni wedi osgoi cyd-destun cronolegol er mwyn datgelu’r cyfatebiaethau gweledol a’r motiffau sy’n dychwelyd yn gyson wrth i’w gwaith esblygu o naratifau tra phersonol i ystyriaethau o orwelion ehangach.

Proffil Artist

Portread o Katrien De Blauwer

Katrien De Blauwer

Ganed yn Ronse, Gwlad Belg

Yn byw yn Antwerp

Mae Katrien wedi datblygu meistrolaeth lwyr o gelfyddyd ‘torri’ - term sy’n diffinio ei harfer yn well na ‘collage’. Dyw ‘collage’ ddim yn llwyddo i gyfleu ei meistrolaeth o gyfansoddiad ac effaith ffurfiol ei chreadigaethau. Mae ganddi arddull artistig sy’n deillio o ganfyddiad greddfol a phroses farddonol, ond mae ei dull gweithio, yn ei hanfod, yn gysyniadol ac elfennol. Yng ngwaith Katrien De Blauwer mae craffter miniog a sylwgarwch treiddgar yn rhan annatod o’r berthynnas rhwng yr elfennau sy’n creu’r ffotograff a’r testun ei hun - y ffordd mae hi’n gallu dal darn o rywbeth real wrth ei fframio, ynghyd â gofod y ddelwedd a holl amrywiaeth lefelau a lliwiau ei gyfansoddiad. Ond nid yw Katrien yn ffotograffydd yn ystyr uniongyrchol y gair. Mae hi’n casglu, distyllu ac ail-gylchu gwahanol elfennau o bob math o ffotograffau er mwyn adfywio eu gwerth ffurfiol.