Prosiect
Project Animeiddio Ysgol Rhydypennau
Dros nifer o fisoedd, bu plant o Ysgol Gynradd Rhydypennau yn gweithio gyda CAST a Ffotogallery i greu darn o animeiddio ar gyfer eu cân ysgol.
Ar ôl cael yr holl ysgol i gyfranogi mewn nifer o weithdai a redwyd gan CAST, gweithiodd detholiad o blant o bob grŵp blwyddyn gyda’r animeiddiwr Matthew Wright ac Addysg Ffotogallery i ddatblygu deunyddiau ar gyfer y themau a’r motiffau gweledol a geir yng nghân yr ysgol.
Gan ddefnyddio cyfuniad o dynnu ffotograffau llonydd, lluniadu, sganio gwrthrychau a thrin delweddau digidol, cynhyrchodd y disgyblion weithiau celf a oedd yn cyfleu ethos Masnach Deg ac ysbryd cydweithredol yr ysgol.
Enillodd y project Wobr Aur Artsmark i Ysgol Gynradd Rhydypennau.