Arddangosfa / 20 Hyd – 26 Hyd 2017

Route to Roots

Route to Roots
© Arnaldo James

Mae Ffotogallery yn falch iawn o allu cyflwyno arddangosfa fywiog newydd o ffotograffau, gwisgoedd a fideos sy’n archwilio arwyddocâd celfyddydau’r carnifal a’u rhan mewn hunaniaethau cymunedol yn y Deyrnas Gyfunol, Affrica a’r Caribî. Cynhelir digwyddiad lansio arbennig am 6pm ar ddydd Iau 19 Hydref yn Ffotogallery yn yr Angel, Stryd y Castell, Caerdydd, ac fe fydd yr arddangosfa i’w gweld wedi hynny am wythnos.

Wedi’i hamseru i gyd-fynd â Mis Hanes Pobl Dduon, mae’r arddangosfa’n nodi diwedd prosiect Route to Roots, a oedd yn fodd i ddod ag artistiaid a beirniaid at ei gilydd i weithio mewn ffurfiau celfyddydol amrywiol fel cerddoriaeth, y celfyddydau cain, theatr, dawns, crosio, masquerade a charnifal a hynny mewn preswyliad saith diwrnod o hyd a ddaeth i’w uchafbwynt mewn gosodiad perfformiadol cyhoeddus yng Ngharnifal Trebiwt a Gŵyl Hub Caerdydd.

Deilliodd Route to Roots o waith ymchwil o bwys gan yr artist Adeola Dewis, sy’n gweithio yng Nghaerdydd. Mae hi’n gweithio ar y syniad o Garnifal fel perfformiad sydd yn (ail)gyflwyno treftadaeth ddiwylliannol a hanesion sy’n hanu o brofiad y diaspora Affricanaidd ac sydd o bwys hanesyddol, athronyddol ac ysbrydol. Y syniad oedd dangos sut y gellir rhannu’r straeon a’r traddodiadau hyn trwy gyfrwng gwisgoedd, cerddoriaeth a dawns mewn mannau cyhoeddus. Fel y dywed Adeola Dewis:

“Crëwyd y prosiect hwn yn rhan o’m hymateb i’r sylw a roddwyd i drais yn erbyn dynion (a merched) duon a’r lladdiadau a roddodd fod i fudiad Black Lives Matter. Dechreuais trwy ofyn y cwestiwn: pa beth yw hwnnw sydd yn ein cysylltu ni? “Yn y prosiect hwn, roeddwn i am ystyried y ffyrdd sydd gennym ni, aelodau o’r diaspora, o ymwneud â’n gilydd. Sut a ble rydym yn darganfod, yn dathlu ac yn tynnu sylw at y tir cyffredin, y grym, y lleisiau a’r hudoliaeth sydd gennym? Dw i’n defnyddio ‘hud’ i sôn am y cydgyfeirio sy’n digwydd pan ddaw grymoedd ynghyd i weithio, i gynhyrchu ac i sicrhau camau ac amgylchiadau cadarnhaol.”

Bydd cyfrol Route to Roots arbennig, wedi’i chyhoeddi gan Ffotogallery, yn cyd-fynd â’r arddangosfa ac fe fydd ar gael i ysgolion, colegau a grwpiau cymunedol.

Cychwynnwyd prosiect Route to Roots gan Adeola Dewis ar y cyd â Ffotogallery ac fe’i ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.