Prosiect

Gweld, Creu

Dros dri sesiwn, gofynwyd i ddisgyblion ysgol yn Abertawe i greu ffilmiau 3 munud gan ddefnyddio iPads. Meithrin dealltwriaeth o bwysigrwydd y ddelwedd symudol i bob math o ddarlledu, o’r sinema i You Tube, oedd nod creadigol y prosiect. Trwy gyfuno gwahanol elfennau’r cyfrwng - cynllunio sain, delwedd a thestun – fe greodd y disgyblion ffilmiau byrion sy’n adrodd eu straeon personol eu hunain.

Wrth gyfeirio at elfennau o sinema gynnar yr 20fed ganrif, ffilmiau arswyd cynnar, swrealiaeth, animeiddio cyfoes, comics a diwylliant gemau, mae’r disgyblion (myfyrwyr ffilm a chyfryngau’r dyfodol) yn meithrin sgiliau sy’n angenrheidiol i ymuno â’r don newydd o gynhyrchwyr cyfryngau traws-blatfform sy’n creu cynnwys ar gyfer cyfryngau cymdeithasol a darlledwyr.