Digwyddiad / 17 Mai 2023

Canu ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl

Mae’n bleser gan Ffotogallery gyhoeddi’r dyddiad newydd ar gyfer noson o ganu gyda Choir With No Name a Choirs For Good, sef Dydd Mercher 17 Mai, 6-8pm.

Mae Choir with No Name wedi bod yn cynnal corau’n llwyddiannus ac yn datblygu cymunedau llawen gyda phobl ddigartref a phobl wedi eu hymyleiddio ers 2008. Mae chwe chôr ar hyd a lled y Deyrnas Unedig. Cafodd y côr yng Nghaerdydd, a redir mewn partneriaeth â’r Wallich, ei lansio yn 2021.

Mae Choir With No Name wedi ei seilio ar y ffaith bod canu’n gwneud i chi deimlo’n dda; mae’n tynnu eich sylw oddi ar holl nonsens bywyd ac yn eich helpu i fagu hyder, dysgu sgiliau a gwneud ffrindiau dilys, hirdymor.

Mae Choirs For Good yn rhwydwaith o gorau lles cymunedol. Maen nhw’n bodoli i hyrwyddo pwysigrwydd a buddion canu cymunedol, nid yn unig er lles corfforol a meddyliol unigolyn, ond hefyd yr holl ffyrdd gwych y gall corau uno pobl a chyfrannu yn ôl i’w cymunedau lleol a gwireddu eu potensial yn y gymuned ehangach.

Yn ystod y noson bydd y ddau gôr yn perfformio caneuon hyfryd i ni, yn ogystal â darparu gweithdy byr lle gallwn oll gymryd rhan a phrofi grym y gân i wella ein lles. Felly mae’n briodol y bydd y digwyddiad hwn yn digwydd yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl.