The Female Line gyda Adeola Dewis
Ar Ddydd Gwener 13 Ionawr 2023, bydd Ffotogallery yn cynnal digwyddiad gyda’r nos ar gyfer The Female Line gyda’r siaradwr gwadd Adeola Dewis.
Bydd y digwyddiad hwn, yn benodol i fenywod o liw, yn darparu ac yn creu lle diogel i ferched ddatblygu cysylltiadau ac ymatebion creadigol i faterion, syniadau a phryderon a rennir ganddynt, gyda siaradwr gwadd i ysbrydoli’r sgyrsiau.
Mae Adeola yn artist ac ymchwilydd. Mae hi’n hanu o Trinidad a Tobago, ac mae ganddi ddiddordeb brwd mewn perfformiadau diwylliannol defodol, gwerin a brodorol. Mae hi’n cael ei denu’n arbennig at estheteg perfformiad yn nawnsiau masgiau a Charnifal Trinidad a’r ffyrdd posibl y gall dealltwriaeth o’r rhain – ac o fathau eraill o berfformiadau rhyddhau – fod yn berthnasol i greu celf neu gyflwyniadau celf i unigolion neu grwpiau sy’n mynd trwy fathau o ddadleoliad a phryder cymdeithasol mewn cymunedau gwasgaredig. Mae ei gwaith yn ymwneud â pherfformiadau o weddnewidiad ac mae’n archwilio ffyrdd o ail gyflwyno’r hunan. Mae ei bywyd a’i phrofiadau fel mam a mewnfudwr o’r Caribî wedi hysbysu agweddau o’i gwaith ac yn parhau i gyfrannu at y ffyrdd y mae ei gwaith yn datblygu.
Bydd Adeola yn siarad am ei thaith hyd yn hyn, gan edrych ar gwestiynau yn ymwneud â chartref, masgio a pherthyn. Bydd hi hefyd yn arwain gweithdy creadigol mewn perthynas â gwneud masgiau.
Mae The Female Line yn ofod i bobl sy’n eu hystyried eu hunain yn fenywod sy’n gweithio yn y sector creadigol i gwrdd, cysylltu a rhannu. Mae digwyddiadau wyneb yn wyneb rheolaidd gyda siaradwyr gwadd a grŵp ar-lein yn dod â’r rhai sy’n eu hystyried eu hunain yn fenywod at ei gilydd yng Nghaerdydd, De Cymru. Gyda grwpiau cymunedol penodol a digwyddiadau i’r rheiny sy’n eu hystyried eu hunain yn anneuaidd a merched o liw. Mae’n cael ei ddarparu gan Her Mark a MADE Caerdydd mewn partneriaeth â Ffotogallery.
Mae’r bartneriaeth a’r digwyddiad hwn yn bosibl diolch i arian gan Gyngor Celfyddydau Cymru.