Arddangosfa / 24 Hyd – 21 Rhag 2019

The Place I Call Home - Caerdydd

The Place I Call Home - Caerdydd
© Sara Al Obaidly

Mae’n bleser mawr gan Ffotogallery eich gwahodd i ddangosiad cyntaf The Place I Call Home, yng nghartref newydd Ffotogallery yn Cathays, Caerdydd.

Ar ôl bod ar ymweliad cwmpasu i bob un o chwe gwlad Cyngor Cydweithredol y Gwlff, penderfynodd y curadur ar ddull a gweledigaeth yr arddangosfa a chomisiynodd nifer o artistiaid wedi’u seilio ym Mhrydain a’r Dwyrain Canol i gynhyrchu gwaith oedd yn ymateb i’w themâu. Mae’r artistiaid a ddetholwyd yn adlewyrchu cydbwysedd mewn oedran, rhyw a phrofiad proffesiynol, yn ogystal â chynrychioli pob un o chwe gwlad Cyngor Cydweithredol y Gwlff. Mewn amrywiol ffyrdd, mae gwaith yr artistiaid a ddewiswyd yn ymwneud â rhannu straeon am ddiwylliant a threftadaeth, am herio stereoteipiau, ac am archwilio hunaniaethau, elfennau cyffredin a gwahaniaethau.

Mae’r arddangosfa’n parhau yng Nghaerdydd tan 21 Rhagfyr, ac yn teithio i ddau safle arall ym Mhrydain, yn ogystal â phob un o chwe gwladwriaeth y Gwlff, rhwng Medi 2019 a Mawrth 2020.

Dyma’r artistiaid fydd â gwaith yn yr arddangosfa: Mohammed Al Kouh, Ammar Al Attar, Moath Alofi, Sara Al Obaidly, Mashael Al Hejazi, Mai Al Moataz, Abi Green & Sebastian Betancur-Montoya, Ben Soedira, Gillian Robertson, Josh Adam Jones, Richard Allenby-Pratt, Hussain Almosawi & Mariam Alarab a Zahed Sultan.

Ewch i safle’r prosiect yn theplaceicallhome.org i ganfod rhagor am yr artistiaid a’r prosiect.