Arddangosfa / 14 Medi – 28 Medi 2019

The Place I Call Home - Derby, y Deyrnas Unedig

Gan weithio mewn partneriaeth â FORMAT, mae’n bleser mawr gan Ffotogallery eich gwahodd i gyflwyniad agoriadol The Place I Call Home yn Riverlights, Derby.

Mae’r arddangosfa draws-ddiwylliannol hon, a gomisiynwyd gan y British Council ac a guradwyd gan David Drake, Cyfarwyddwr Ffotogallery, yn cyflwyno gwaith 13 o artistiaid, a phob un yn defnyddio ffotograffiaeth i archwilio’r syniad o gartref drwy brofiadau pobl sy’n byw yn y Gwlff a’r Deyrnas Unedig mewn cyfnod o newid cyflym a symudedd cymdeithasol.

Ar ôl bod ar ymweliad cwmpasu i bob un o chwe gwlad Cyngor Cydweithredol y Gwlff, penderfynodd y curadur ar ddull a gweledigaeth yr arddangosfa a chomisiynodd nifer o artistiaid wedi’u seilio ym Mhrydain a’r Dwyrain Canol i gynhyrchu gwaith oedd yn ymateb i’w themâu. Mae’r artistiaid a ddetholwyd yn adlewyrchu cydbwysedd mewn oedran, rhyw a phrofiad proffesiynol, yn ogystal â chynrychioli pob un o chwe gwlad Cyngor Cydweithredol y Gwlff. Mewn amrywiol ffyrdd, mae gwaith yr artistiaid a ddewiswyd yn ymwneud â rhannu straeon am ddiwylliant a threftadaeth, am herio stereoteipiau, ac am archwilio hunaniaethau, elfennau cyffredin a gwahaniaethau.

Mae’r arddangosfa’n parhau yn Derby tan 28 Medi, ac mae’n teithio i dri lleoliad arall ym Mhrydain (gan gynnwys cartref newydd Ffotogallery yng Nghaerdydd) yn ogystal â phob un o chwe gwladwriaeth y Gwlff, rhwng Medi 2019 a Mawrth 2020.