Arddangosfa / 28 Gorff – 2 Medi 2017

The Queen, The Chairman and I

Kurt Tong

The Queen, The Chairman and I
© Kurt Tong

Arddangosfa deithiol gan Oriel Impressions wedi’i churadu gan Anne McNeill.

Mae The Queen, the Chairman and I yn nodi ugain mlynedd ers i Hong Kong ddychwelyd i sofraniaeth Tsieina, o reolaeth Prydain, ac yn gipolwg diddorol ar hanes cyfun Tsieina a’r DG, a ddarlunnir trwy gyfrwng hanes teuluol y ffotograffydd Kurt Tong.

Wedi’i disgrifio gan Tong fel rhyw fath o raglen ‘hel achau’ ffotograffig, cafodd arddangosfa The Queen, the Chairman and I ei chreu dros gyfnod o bedair blynedd ar hyd tri chyfandir. Mewn saga aml-haenog am gariad, gobaith a thrasiedi, mae Tong yn datgelu cyfrinachau teuluol ac yn datgelu hefyd effeithiau grymoedd gwleidyddol ac economaidd ar bobl unigol. Mae’r arddangosfa yn tynnu ar gysylltiadau Tseineaidd, Hong Kong-aidd a Phrydeinig Tong ac yn cyfuno lluniau newydd ar raddfa fawr, ffotograffau teuluol a deunydd ffilm lliw prin o’r 1940au. Yn ganolog i’r arddangosfa hon mae ystafell de Tseineaidd gyfoes lle caiff ymwelwyr eu gwahodd i yfed te, i ddarllen llyfr Tong, ac i rannu eu straeon teuluol eu hunain.

Roedd tad cu Tong ar ochr ei dad yn weithiwr dec a gyrhaeddodd Hong Kong o Shanghai ar ôl cwymp llinach ymerodrol olaf Tseinia yn 1911, pan ddenwyd pobl gan yr addewid o well swyddi yn y drefedigaeth Brydeinig, a oedd yn gymharol sefydlog ar y pryd. Roedd teulu ei fam yn landlordiaid yn Ne Tsieina, ac mae Tong yn credu iddynt ‘adael am Hong Kong er mwyn osgoi cael eu lladd wrth i fyddinoedd Comiwnyddol Mao wneud eu ffordd drwy’r wlad.’ Magwyd Tong yn Hong Kong, ac fe ganodd anthem genedlaethol Prydain drwy gydol ei flynyddoedd yn yr ysgol. Daeth i’r DG i barhau â’i addysg a dychwelyd i Hong Kong yn 2012.

Dywedodd Tong, ‘Dw i’n olrhain hanes fy nheulu er mwyn ceisio barnu’r effaith a gafodd dau unigolyn hynod ddylanwadol, y Frenhines Victoria a’r Cadeirydd Mao, ar fy nheulu. Rhoddir ystyriaeth gyfartal i luniau newydd, lluniau hapgael a gwaith ysgrifenedig ac mae’r prosiect hwn yn fodd i mi ailgysylltu â Hong Kong y gorffennol, drwy gyfrwng atgofion fy nheulu estynedig, yn wyneb y cynnwrf gwleidyddol a chymdeithasol a arweiniodd fy nheulu i Hong Kong ac yn y pen draw i’r Deyrnas Gyfunol.’