We Are Here, Because You Were There: Symposiwm
Paul Dear, Carolyn Johnstone, Shereen Williams, Dr Sara de Jong, Andy Barnham
Ymunwch â ni ar Ddydd Sadwrn 28ain Ionawr i fwynhau prynhawn a fydd yn orlawn â sgyrsiau ysbrydoledig, rhannu profiadau a dadleuon bywiog, gan ganolbwyntio ar y pynciau a godir yn ‘We Are Here, Because You Were There; Afghan Interpreters in the UK’.
12.30pm - Sgwrs am y prosiect gan y cyd-grewyr, y ffotograffydd Andy Barnham a’r academydd Sara De Jong.
2pm - Rhannu profiadau byw gan Gyfieithwyr o Afghanistan
3.30pm - Trafodaeth Panel - Ailsefydlu yn y DU a Chymru: Cenedl o Noddfa
Nodwch os gwelwch yn dda – ni fydd hawl i unrhyw un dynnu lluniau neu fideograffi yn y digwyddiad hwn / digwyddiadau hyn, oherwydd mae’n bwysig peidio datgelu pwy yw’r cyfieithwyr sydd wedi bod yn ddigon caredig i gynnig rhannu eu profiadau gyda ni.
Proffil Artistiaid

Paul Dear
Mae Paul Dear yn Ddirprwy Gyfarwyddwr i’r Is-adran Cymunedau Cydlynus yn Llywodraeth Cymru. Mae’r is-adran hon yn cynnwys y tîm Cynhwysiant a Chydlyniant sy’n arwain Llywodraeth Cymru mewn perthynas â ffoaduriaid, ceiswyr lloches a cheiswyr lloches a wrthodwyd. Mae hyn yn cynnwys rheoli gweithrediad y Cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches Cenedl Noddfa a gwaith cysylltiedig, yn cynnwys Integreiddiad ac Adleoliad Affganistan. Mae Paul wedi gweithio i Lywodraeth Cymru ers 2006, a chyn hynny roedd yn gweithio i’r llywodraeth leol, y sector gwirfoddol a’r Eglwys Fethodistaidd. Y tu allan i’r gwaith, ef oedd cadeirydd a sefydlydd Canolfan y Drindod yng Nghaerdydd, sy’n darparu cefnogaeth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Mae Paul yn byw yng Nghaerdydd.

Carolyn Johnstone
Dechreuodd Carolyn ymwneud â’r Cyfieithwyr Affganaidd yn ddamweiniol. Anfonodd neges drydar, ac ymatebwyd iddi gan nifer o gyfieithwyr Affganaidd oedd wedi gweld eu ceisiadau i’r Polisi Adleoli a Chynorthwyo Affganaidd yn cael eu gwrthod. Aeth i siarad â chyn-filwr, Charlie Herbert, i ofyn sut i apelio’r penderfyniad. Am ei fod ef yn arwain yr ymgyrch wleidyddol gyda chefnogaeth staff milwrol uwch eraill, dywedodd nad oedd yr amser ganddo. Gyrrodd Carolyn at Johnny Mercer AS a atebodd ei neges e-bost hithau gan ddweud na allai helpu, ac mai’r dyn i fynd ato oedd Charlie…
Felly y dechreuodd taith Carolyn gyda helpu nifer o Gyfieithwyr Affganaidd a’u teuluoedd i ffoi rhag cael eu hela gan y Taliban gormesol, awdurdodaidd sy’n casáu merched.
Ganed Carolyn ym Mhorthcawl, lle mae ei thad yn dal yn byw, ac mae hi’n fam i ddau, yn wraig i un ac mae ganddi hanes o ymgyrchu dros hawliau/cyfleoedd i’r anabl ac i fenywod. Mae ganddi hanes amrywiol o ran swyddi, yn cynnwys glanhau, Merch Tequila, gwerthu toiledau cemegol (peidiwch â sôn am y gwyliau mawr), ymgeisydd seneddol a chynghorydd. Does ganddi ddim ofn bod â safbwynt moesol ac o lynu’n dynn at hwnnw ac mae hi’n ei disgrifio ei hun, yn ddiffuant, fel asgwrn cefn y genedl.
Dyma mae pobl eraill wedi ei ddweud am Carolyn:
“Mae hi’n gwneud gwaith Duw”
“Pwy ydych chi?”
“Roedd hi yno o’r diwrnod y dechreuodd y Taliban chwilio yn Kabul amdanom. Wnaeth hi byth ein hanwybyddu. Gwnaeth fwy na roeddem wedi’i ddisgwyl, yn y diwedd, achubodd fi a heddiw rydw i wedi llwyddo i gyrraedd Prydain. Wna i byth anghofio Carolyn”.
Shereen Williams
Shereen Williams MBE OStJ DL yw Prif Swyddog Gweithredol Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (LDBCW) ac Ysgrifennydd y Comisiwn Ffiniau i Gymru (BCW). Cyn gwneud hyn, roedd hi’n gweithio i’r llywodraeth leol am bron i ddegawd yn Awdurdodau Lleol Casnewydd a Sir Fynwy fel Rheolwr Cysylltu Cymunedau a, chyn hynny, fel Cydgysylltydd Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol i Ddwyrain Gwent. Roedd y tîm yr oedd yn ei reoli yn gyfrifol am ddarparu blaenoriaethau strategol yn cynnwys Mudo, Atal Eithafiaeth Dreisgar, Cydraddoldebau a Chydlyniant Cymunedol. Yn ystod ei hamser yn y rôl hon, hi oedd y prif swyddog oedd yn goruchwylio’r rhaglen Adsefydlu Cyfieithwyr Affganaidd yn Sir Fynwy, yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i gefnogi’r rhaglen.

Dr Sara de Jong
Mae Dr Sara de Jong yn Uwch Ddarlithydd yn yr Adran Wleidyddiaeth ym Mhrifysgol Efrog, ac mae hi’n ymchwilio amddiffyniad ac ailgartrefu cyfieithwyr Afghanistanaidd a gyflogir gan fyddinoedd y Gorllewin. Ers 2017, mae hi wedi cynnal mwy na 80 o gyfweliadau gyda chyfieithwyr ac eiriolwyr yn y DU, yr Unol Daleithiau, Canada, Yr Almaen, Ffrainc a’r Iseldiroedd. Hi hefyd yw un o sefydlwyr yr elusen Sulha Alliance, sy’n eirioli dros gyfieithwyr o Afghanistan a weithiodd i Luoedd Arfog Prydain.

Andy Barnham
Mae Andy Barnham yn ffotograffydd, cyn-filwr a mab i ffoadur. Mae’n gymysg o ran ei hil (Seisnig/Tsieineaidd) ac yn siarad nifer o ieithoedd (Saesneg, Tsieinëeg, Ffrangeg a Farsi). Cafodd ei eni yn Hong Kong ac aeth i’r ysgol a’r brifysgol yn y DU cyn gwasanaethu fel swyddog yn y Magnelwyr Brenhinol, gan fynd ar gyrchoedd gweithredol nifer o weithiau i Irac, Cyprus ac Afghanistan lle dogfennodd ei brofiadau fel ffotograffydd hamdden. Wedi iddo adael y Fyddin Brydeinig, trodd Andy ei angerdd yn yrfa a glaniodd ar Savile Row lle daeth yn rhan o fyd dilladol Llundain. Am fwy na degawd, bu’n tynnu lluniau’r agweddau gorau o dreftadaeth a chrefft Brydeinig ar gyfer teitlau golygyddol moethus cyn canolbwyntio ei sgiliau arsylwi a rhyngbersonol ar bortreadau. Roedd We Are Here yn un o’r gweithiau buddugol yng ngwobrau ffotograffau Prix de la Photographie 2022, Paris (PX3) yn y categori portreadau.