Prosiect

Menywod, Rhyfel a Heddwch

Pobl Ifanc yn Lleisio o blaid Heddwch

Gweithiau gan Lee Karen Stow ar gyfer arddangosfa ‘Menywod, Rhyfel a Heddwch’ a’r digwyddiadau’n nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf oedd ysbrydoliaeth y prosiect yma. Gwahoddwyd disgyblion chwech o ysgolion uwchradd i archwilio sut y gwnaeth pobl yng Nghymru ymateb i ryfel ac ymgyrchu dros heddwch yn ystod y can mlynedd diwethaf.

Cynhyrchodd y disgyblion ffilmiau byrion a straeon digidol ar ystod o bynciau – o’r hanesyddol (gweithio dros y rhyfel, gwrthwynebiad cydwybodol) i’r cyfoes (hawliau menywod, argyfyngau ffoaduriaid). Bu’r disgyblion yn gweithio’n agos gyda Michal Iwanowski, tiwtor Ffotogallery, a Jane Harris, Cydlynydd Dysgu Cymru Dros Heddwch i feithrin a datblygu eu sgiliau ymchwil, creu delweddau a golygu.

Cafodd amrywiaeth gyffrous o 23 o ffilmiau eu cynhyrchu - yn adlewyrchu creadigrwydd y disgyblion a gogwydd arloesol ar y gwahanol bynciau a ddewiswyd ganddynt.

Bydd y ffilmiau’n cael eu cadw fel rhan barhaol o ‘fap heddwch’ Cymru Dros Heddwch a’u defnyddio yn y gynhadledd i ysgolion a gynhelir ym mis Medi dan adain Cymru Dros Heddwch a’r Cynulliad.

Canllaw cynhwysfawr ar sut i gynhyrchu eich prosiect dogfennol eich hunan

Bydd y ffotograffydd Lee Stow, ar y cyd â Ffotogallery a phrosiect Cymru Dros Heddwch, yn trafod ei phrofiadau’n gweithio ar ‘Poppies: Women, War, and Peace’, a chynnig cyngor i ffotograffwyr ifanc sydd am ddatblygu prosiectau dogfennol cryf ac effeithiol.

Mae dealltwriaeth ac awgrymiadau craff Lee yn rhoi cyd-destun proffesiynol i’n canllaw cam wrth gam a’n fideo ni.

“Poppies” A comprehensive guide to producing your own documentary project. from Diffusion Festival on Vimeo.