Arddangosfa / 28 Chwef – 4 Ebr 2020

Work to Be Done

Work to Be Done
© Mikko Suutarinen

Mae cymdeithas yn disgwyl i ni oll weithio a thalu trethi. Os yw cymdeithas yn mynd i weithredu’n llwyddiannus, mae’n hanfodol fod pawb yn cyfrannu. Rydyn ni’n parchu’r weithred o weithio – ond mae parch pobl at y gwahanol broffesiynau a swyddi o wahanol lefelau’n creu hierarchaeth amrywiol. Mae llawer o gymdeithasau’n ein hannog ni i gael plant – ac i greu’r genhedlaeth nesaf i gyfrannu at ddatblygiad, trethi a gwasanaethau’r genedl yn y dyfodol.

Mae Happy Families yn gêm gardiau Brydeinig draddodiadol a grëwyd tua chanol yr 1800au sy’n dangos teuluoedd gyda phedwar aelod hapus. Mam a tad, sef Mrs a Mr Math penodol o swydd, sy’n rhannu’r un proffesiwn, a dau blentyn, merch a bachgen, sy’n dilyn yr un trywydd â’u rhieni. Dros 150 o flynyddoedd yn ôl, roedd hwn yn syniad chwyldroadol am deulu oedd yn gweithio. Sgwn i a oedd hwn yn rhagweld sut y byddai teulu hapus yn gweithredu yn y dyfodol neu a ydoedd yn ddim byd mwy na syniad rhyfedd diniwed na thalodd bobl lawer o sylw iddo? Menyw a dyn, y ddau yn weithwyr annibynnol, yn gweithio fel peirianwyr, ffotograffwyr, pobwyr, yn gweithio er mwyn y teulu ac am eu bywoliaeth mewn labordai ac ar longau pysgota. Os yw ‘Happy Families’ yn uned berffaith a chytbwys, gallwn ni weld y gymdeithas ddelfrydol mewn un pecyn o gardiau. Mae pawb yn gwneud yr hyn maen nhw’n ei fwynhau ac yn gallu rhoi o’u gorau.

Dydy byd y ferch a byd y dyn gyda chodau arbennig y ddau ryw ddim yn rhith. Mae’r agendor rhwng y ddau fyd, yn y gwaith ac yn y cartref, wedi eu gwau ynghyd mewn patrymau dirifedi. Mae’n anrhydedd i allu dewis eich proffesiwn a’ch gweithle eich hun. I allu dewis cymryd cyfnod o absenoldeb rhiant ac aros adref gyda’r plant. I ennill digon i fyw arno. Mae’r anrhydeddau hyn yn mynd y tu hwnt i faterion cydraddoldeb y rhywiau – dyma’r dewisiadau y mae rhai pobl yn eu gwneud, pa ryw bynnag ydyn nhw.

Wrth i newidiadau strwythurol ysgwyd sylfeini’r amgylcheddau gwaith yn Ewrop, bydd gwaith caled traddodiadol yn diflannu a bydd y galw am weithwyr meddal yn cynyddu. Does dim angen bellach am y bwlch rhwng y rhywiau mewn cymdeithas amaethyddol, os oedd un erioed. Mae hierarchaeth yn chwalu hefyd. Mae cwmnïau’n cydnabod mor hanfodol bwysig yw cael gweithle sy’n cael ei barchu’n fawr, ac mae’n gallu sicrhau hynny drwy gyfathrebu ac ymddiriedaeth rhwng y rheolwyr a’r gweithwyr. Dydy hyder ddim yn gysylltiedig ag un rhyw arbennig. Mewn gweithle cynhyrchiol, gall pawb weithio fel nhw eu hunain a dylanwadu ar yr hyn y mae ‘gwaith’ yn ei olygu. Yn debyg i’r hyn sy’n digwydd yn ein cartrefi, mae Teulu Llawen yn cydweithio i gyflawni tasgau pob dydd.

Beta Bajgart, Johan Bävman, Katrina Neiburga, Mikko Suutarinen, a Nella Nuora yw’r artistiaid a fydd yn arddangos eu gwaith dan ofalaeth Whack 'n' Bite.

Gallery

Taith Rithwir - Work to Be Done