Arddangosfa / 2 Maw – 31 Maw 2018

Zeitgeist

Zeitgeist
© James A. Hudson

Yn 2018 mae Ffotogallery yn dathlu ei ben-blwydd yn 40 oed. Fel asiantaeth genedlaethol Cymru ar gyfer ffotograffiaeth a chyfryngau’r lens yng Nghymru, rydym yn dathlu’r garreg filltir â chyfres o arddangosfeydd, prosiectau a digwyddiadau arbennig.

Yn Nhŷ Turner ym mis Mawrth, bydd Ffotogallery yn cyflwyno Zeitgeist, sy’n cynnwys gwaith gan ddeg artist nodedig o bum cyfandir, gan gynnwys prosiect enillydd Gwobr Portreadau Ffotograffig Taylor Wessing 2017, Passengers gan César Dezfuli. Mae’r corff hwnnw o waith yn cynnwys delweddau trawiadol o fudwyr a achubwyd o gwch rwber ym Môr y Canoldir. Mae Value gan Marta Mak yn archwilio’r modd y gallwn ni greu pethau newydd, fel petai drwy alcemi, o hen ddeunydd pacio plastig a chynhyrchion gwastraff, a thrwy hynny drawsnewid gwastraff yn adnodd cymdeithasol-ddefnyddiol. Gan mlynedd ar ôl Chwyldro 1917, mae Close Close Up Alexander Anufriev yn archwilio cymhlethdod gwleidyddol y Rwsia fodern a’r modd y mae sensoriaeth a phropaganda yn tanio cenedlaetholdeb afiach. Mae Entre-Deux (Interval) gan Medhi Bahmed yn datguddio’r dadrith sy’n wynebu ffoaduriaid Mwslemaidd ac Arabaidd a mewnfudwyr, yng ngoleuni ymosodiadau terfysgol diweddar, y cynnydd mewn troseddau hiliol a phoblogrwydd yr adain dde yn Ewrop.

Mae Zeitgeist yn cyflwyno detholiad o waith a gyflwynwyd ar ôl i Ŵyl Diffusion 2017 alw am gynigion gan artistiaid yn fyd-eang. Mewn gwahanol ffyrdd, mae’r artistiaid hyn yn dal ysbryd ein hoes, yn amlygu’r hyn sy’n digwydd ac yn cynnig mewnwelediad newydd a heriau i’r sefyllfa bresennol. A’n gwahanol ffrydiau yn llawn newyddion am Brexit, Trump, newid hinsoddol, tlodi, anoddefgarwch crefyddol, argyfwng ffoaduriaid ac ymfudo, rheoli ffiniau a boneddigeiddio, maeZeitgeist yn holi pa effeithiau y mae hyn i gyd yn ei gael ar yr unigolyn a chymdeithas.

Mae’r artistiaid sy’n cymryd rhan yn cynnwys:

Alexander Anufriev, Blazej Marczak, César Dezfuli, Demetris Koilalous, Hiro Tanaka, James A. Hudson, Marta Mak, Mehdi Bahmed, Phil Hatcher-Moore, a Verena Prenner