Condition Report

Mae’r cyhoeddiad hwn yn cynnwys pum artist Siec ifanc sy’n rhannu diddordeb yng nghyfnewidioldeb y ffotograff fel gwrthrych – y posibilrwydd o sgrifennu drosto, ei ddiraddio neu ei newid mewn ffyrdd eraill, trwy brosesau analog yn amlach na pheidio yn hytrach na dulliau digidol.

Efallai bod y genhedlaeth hon o artistiaid ffotograffig Siec wedi cymathu iaith a syniadau Fluxus, swrrealaeth ac archifo amgueddfaol, ond mae i’w gwaith ansawdd esthetig, hiwmor eironig a ffordd eliptig o adrodd stori sy’n nodweddiadol Siec. Ceir yma ymwybyddiaeth neilltuol a natur delynegol sydd â rhagflaenwyr yn hanes ffotograffiaeth Siec. Er eu bod yn gweithiod mewn amgylchedd llawer mwy cyfoes, gellir canfod yn yr artistiaid Siec iau hyn awydd tebyg am arbrofi’n chwareus, apêl at yr isymwybodol a’r afresymegol, a’r gallu i gyfuno prosesau traddodiadol a modern o wneud delweddau er mwyn trawsnewid y cyffredin a’r beunyddiol yn rhywbeth anghyffredin.

Cyhoeddiad Ffotogallery, cynhyrchwyd mewn cysylltiad â FAMU Prâg a Phrifysgol Cymru Casnewydd