Other Spaces

Mae’r corff newydd o waith gan yrartist Jo Longhurst yn datblygu ei diddordeb mewn perffeithrwydd. Mae’n ailgyfeirio ei ymchwiliad i’r corff delfrydol tuag at y perfformiad perffaith, gan archwilio profiadau corfforol ac emosiynol gymnastiaid elît wrth hyfforddi a chystadlu. Mae’r gwaithyn cynnwys portreadu ffotograffig clasurol, ffotograffau ‘benthyg’, a gweithiau ffotograffig cymysgryw a ysbrydolwyd gan ffurfiau solet perffaith Plato, ac arbrofion chwyldroadolPopova a Rodchenko gyda ffurfiau esthetig ar gyfer adeiladu cymdeithas newydd, Iwtopaidd

Dengys y gyfrol sut y gweithiodd Longhurst gyda chorff o ddeunydd ffynhonnell ffotograffig gwreiddiol, lluniau ac astudiaethau a wnaeth tra’n artist gwadd yng Nghlwb Gymnasteg Heathrow a Phencampwriaeth Gymnasteg y Byd. Mae’n trawsnewid delweddau ffotograffig yn weithiau mwy cerfluniadol sy’n cyfeirio at Plato ac ymdrechion cynharach y Lluniadaethwyr i ddiffinio a chreu bydoedd perffaith. Mae gan gymnasteg hanes cymdeithasol a gwleidyddol maith, un a fu ynghlwm yn aml â syniad o berffeithrwydd esthetig.

Testunau gan Charlotte Cotton, Sara Knelman, David Drake a Alfredo Cramerotti. Cyd-gyhoeddwyd gan Ffotogallery a Mostyn. Cyhoeddwyd i gydfynd ag arddangosfeydd ym Mostyn, 16 Mehefin – 30 Medi 2012 a Ffotogallery, 20 Hydref – 8 Rhagfyr 2012