Silent Village

Ar y 10fed o Fehefin 1942, difodwyd pentref Lidice yn Siecoslofacia gan y Natsïaid wedi llofruddiaeth Reinhard Heydrich gan y mudiad gwrthsafiad Siec. Ledled y Gorllewin, achosodd y newydd am yr anfadwaith ddicter a ysbrydolodd nifer o weithiau coffa, yn cynnwys cerddi, nofelau, symffonïau a ffilmiau.

O fewn wythnosau i drasedi Lidice, aethpwyd ati i drosi’r digwyddiadau hyn yn ffilm a gefnogid gan y Weinyddiaeth Wybodaeth, ac a wnaed yn ne Cymru. O dan oruchwyliaeth yr artist, bardd a gwneuthurydd ffilmiau Humphrey Jennings, gwnaethpwyd ffilm fer,The Silent Village(1943), yn ailgreu tynged Lidice.

Mae’r cyhoeddiad hwn yn myfyrio ar y berthynas arbennig rhwng amser a lle a ddiffiniai ffilm wreiddiol Humphrey Jennings. Mae’r artistiaid Paolo Ventura a Peter Finnemore, yr awdur Rachel Trezise, y curadur Russell Roberts a’r hanesydd Ffilm, David Berry, yn cynnig ymateb cyfoes i ffilm sydd yn ailgreu erchylltra Lidice ac sydd hefyd yn dangos bywyd yng Nghymru yn y 1940au cynnar. Mae darlunio erchylltra yn anorfod yn codi nifer o gwestiynau moesol. Mae’r ymatebion yma o reidrwydd yn gythryblus ar adegau; nid hawdd cymodi â digwyddiadau hanesyddol mor drawmatig.