Artist

Shaun Lowde

Portrait of Shaun Lowde

Yn dilyn gyrfa fel cyfreithiwr i gleientiaid rhyngwladol ym myd adloniant a’r cyfryngau, mae Shaun Lowde wedi newid cyfeiriad ei yrfa’n ddiweddar ac mae’n rhoi cynnig ar faes newydd fel ffotograffydd ac artist cynnwys digidol yn awr yng Ngorllewin Cymru.

Mae gwaith Shaun wedi esblygu’n archwiliad o gynnwys digidol fel ffordd o gyfathrebu’r cysyniadol. Mae’n defnyddio amrywiaeth o brosesau digidol a ffotograffig i wneud sylwadau am faterion athronyddol, amgylcheddol a chymdeithasol cyfoes.

Mae Shaun wedi graddio’n ddiweddar gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Ffotograffeg o Goleg Sir Gâr (Carmarthenshire School of Art). Mae ei waith wedi ymddangos mewn arddangosfeydd, cylchgronau a chyhoeddiadau ar-lein. Mae wedi ennill, ac wedi bod ar y rhestr fer ar gyfer nifer o wahanol wobrwyon.