Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn disgrifio sut mae Ffotogallery yn defnyddio ac yn prosesu data gan ein hymwelwyr, cwsmeriaid a chefnogwyr. Mae Ffotogallery yn ymrwymedig i ddiogelu eich preifatrwydd.
At ddibenion y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2016 (y “Rheoliad”) rheolwr y data yw Ffotogallery Wales Ltd, sef cwmni nid-er-elw sy’n gyfyngedig trwy warant, gyda’r rhif cwmni 01708938 a’r rhif elusen 513726, ac sydd â’r cyfeiriad cofrestredig The Old Sunday School, Fanny Street, Cathays, Caerdydd, CF24 4EH.
Gallai Ffotogallery newid y polisi preifatrwydd hwn o bryd i’w gilydd drwy ddiweddaru’r dudalen hon. Gwiriwch y dudalen hon yn rheolaidd os gwelwch yn dda i sicrhau eich bod yn hapus gydag unrhyw newidiadau. Mae’r polisi hwn yn weithredol o (dyddiad).
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y polisi hwn, mae croeso i chi gysylltu gan ddefnyddio’r manylion cysylltu ar waelod y dudalen hon.
Pa wybodaeth ydym ni’n ei chasglu a sut ydym ni’n ei defnyddio?
Rydym yn casglu data gan ddefnyddio Google Analytics pan fyddwch yn pori ein gwefannau. Mae Google Analytics yn tracio ymddygiad defnyddwyr sy’n gadael i ni wella defnyddioldeb ein gwefannau. Defnyddir yr wybodaeth hon hefyd at ddibenion adrodd. Mae Google Analytics yn defnyddio cwcis i dracio’r wybodaeth hon, ond mae’r data’n ddienw yn unol â GDPR.
Pan fyddwch yn tanysgrifio i’n rhestr bostio, rydym yn gofyn am eich cyfeiriad e-bost, enw cyntaf a chyfenw. Gallwch ddiweddaru eich dewisiadau a dod â’r tanysgrifiad i ben unrhyw bryd. Mae dolen i wneud hyn ymhob neges e-bost a dderbyniwch gennym.
O bryd i’w gilydd rydym yn gofyn i’n cynulleidfaoedd gwblhau arolygon / roi adborth am ddigwyddiadau a phrosiectau penodol er mwyn ein helpu i wella ein cynnig. Cesglir y data hwn yn ddienw heblaw pan fydd yn dweud fel arall ar y pryd.
Pan fyddwch yn archebu lle ar gyfer digwyddiad sy’n costio neu sy’n rhad ac am ddim, neu pan fyddwch yn prynu eitem ar-lein neu’n bersonol, efallai y bydd gofyn i chi roi rhagor o wybodaeth megis cyfeiriad, dyddiad geni / oed ar adeg yr archebu, rhif ffôn a manylion talu er mwyn cwblhau trafodion / archebion o’r fath. Nid ydym yn cadw unrhyw fanylion talu’n hirach nag sydd raid er mwyn cwblhau trafodion.
Os byddwch yn ateb galwad agored neu’n cyflwyno cynnig ar gyfer arddangos, rydym fel arfer yn gofyn am ragor o fanylion gennych, megis manylion cysylltu dros y ffôn neu’r e-bost, dyddiad geni, gwlad eich genedigaeth (os oes angen ystyried meini prawf cymhwysedd), a gwybodaeth am gynnwys ac awdurdodaeth y gwaith a gyflwynwyd.
Os byddwch yn cysylltu â ni drwy e-bost neu drwy’r cyfryngau cymdeithasol, efallai y byddwn yn cadw cofnod o’r ohebiaeth hon.
O bryd i’w gilydd, efallai y byddwn yn cadw adborth a sgyrsiau dienw at ddibenion gwerthuso. Rydym hefyd yn defnyddio data dienw a gesglir gan Facebook / Twitter / Instagram i gael cipolwg ar y ffordd y mae ein cynulleidfaoedd yn ymgysylltu â ni ar-lein. Gallwch wirio pob un o’u polisïau preifatrwydd nhw drwy ddefnyddio’r dolenni sydd wedi eu darparu uchod.
Wrth wneud cais am unrhyw rai o’r cyfleoedd uchod, bydd gofyn i chi roi rhagor o wybodaeth sy’n angenrheidiol i adael i Ffotogallery roi ymgeiswyr ar restr fer. Bydd yr wybodaeth yn cynnwys, ond ni fydd wedi ei gyfyngu i, eich enw, dyddiad geni, cyfeiriad, manylion cysylltu (gan gynnwys rhai unrhyw ganolwyr) a’ch CV.
Sut ydym ni’n casglu eich data?
Pan fyddwch yn cofrestru i dderbyn ein taflen newyddion, yn archebu lle mewn digwyddiad, yn prynu eitem, cyflwyno gwaith, ateb galwad agored, rhoi adborth i ni, cysylltu â ni neu’n gwneud cais am swydd / interniaeth / cyfle i wirfoddoli, byddwn yn storio’r wybodaeth a ddarparwch cyhyd ag y bo raid.
Wrth i chi bori ein gwefan, efallai y byddwn yn casglu data yn awtomatig am eich offer a’ch patrymau a gweithredoedd pori. Cesglir y data hwn gan ddefnyddio cwcis.
Cwcis
Mae cwci yn llinyn wybodaeth testun-yn-unig y mae gwefan yn ei throsglwyddo i ffeil cwci’r porwr ar ddisg galed eich cyfrifiadur fel bod y wefan yn gallu cofio pwy ydych chi.
Gallwn ddefnyddio’r wybodaeth a gasglwn am eich bod wedi cydsynio i dderbyn cwcis sy’n tracio sut yr ydych yn defnyddio ein gwefan a gallwn adrodd ar y ffordd y mae ymwelwyr yn gyffredinol yn defnyddio’r wefan.
Mae’r rhan fwyaf o borwyr yn gadael i chi reoli’r cwcis sydd wedi eu storio ar eich cyfrifiadur drwy osodiadau eich porwr. I ganfod rhagor am gwcis, gan gynnwys sut i weld pa gwcis sydd wedi eu storio a sut i’w rheoli a’u dileu nhw, ewch i http://www.allaboutcookies.org/
Gallwch ddewis tynnu neu rwystro cwcis unrhyw bryd, ond efallai na fydd rhai nodweddion ar ein gwefan yn gweithio’n iawn o ganlyniad i hynny.
Rhannu eich data gyda phobl eraill
Ni fyddwn yn gwerthu nac yn rhannu unrhyw wybodaeth bersonol gydag unrhyw drydydd parti at ddibenion marchnata.
Rydym yn datgelu gwybodaeth ddienw amdanoch i ddarparwyr dadansoddeg at ddibenion gwella ein gwefan. Rydym wedi rhoi’r gwasanaethau dilynol ar waith, a gallwch optio allan ohonynt gan ddefnyddio’r dolenni perthnasol isod:
Mae Google Analytics yn wasanaeth dadansoddi’r we a ddarperir gan Google Inc. (“Google”). Mae Google yn defnyddio’r data a gesglir i dracio ac archwilio’r ffordd y defnyddir www.ffotogallery.org i baratoi adroddiadau am ei gweithgareddau a’u rhannu gyda gwasanaethau eraill Google.
Gallai Google ddefnyddio’r data a gasglwyd i sicrhau bod hysbysebion ar ei rwydwaith hysbysebu ei hun yn berthnasol i’r cyd-destun a’r person sy’n eu gweld.
Y data personol a brosesir: Cwcis; Data am Ddefnydd.
Yr Unol Daleithiau (y tu allan i’r UE) – Polisi Preifatrwydd – Optio Allan; Iwerddon (o fewn yr UE) – Polisi Preifatrwydd – Optio Allan.
Mae adroddiadau Google Analytics am Ddemograffeg a Diddordebau yn un o nodweddion adrodd Google Advertising sy’n darparu data am ddemograffeg a diddordebau o fewn Google Analytics ar gyfer www.ffotogallery.org (Mae demograffeg yn golygu data am oed a rhyw).
Gall y defnyddwyr optio allan o ganiatáu i Google ddefnyddio cwcis drwy fynd i Osodiadau Hysbysebion Google.
Y Data Personol a brosesir: Cwcis; dynodwyr dyfais unigryw ar gyfer hysbysebu (ID Google Advertiser neu IDFA, er enghraifft).
Yr Unol Daleithiau (tu allan i’r UE) – Polisi Preifatrwydd – Optio Allan; Iwerddon (o fewn yr UE) – Polisi Preifatrwydd – Optio Allan.
Cadw Data
Ni fyddwn yn cadw data personol yn hirach nag sydd raid at y diben y mae’n ofynnol ar ei gyfer, a byddwn yn sicrhau ei fod yn cael ei ddileu’n ddiogel pan na fydd ei angen bellach. Byddwn yn adolygu data i ostwng y risg y bydd yn mynd yn wallus, yn hen neu’n amherthnasol. Os byddwch yn gweld unrhyw wall yn y data yr ydym yn ei ddal, gadewch i ni wybod os gwelwch yn dda drwy gysylltu â ni gan ddefnyddio’r manylion ar waelod y dudalen hon.
Diogelwch
Rydym yn sicrhau bod rheolyddion technegol priodol yn eu lle i ddiogelu eich manylion personol. Bydd yr wybodaeth bersonol a ddarparwch yn cael ei dal yn ddiogel ac ni fydd yn cael ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill heblaw’r rhai y mae’r polisi hwn yn darparu ar eu cyfer.
Rydym yn gwneud adolygiadau rheolaidd o bwy sydd wedi cael gafael ar wybodaeth a ddaliwn i sicrhau mai dim ond staff wedi eu hyfforddi’n briodol sy’n gallu cael gafael ar eich gwybodaeth.
Eich hawliau o dan y Deddfau Diogelu Data
Fel Defnyddiwr, gallwch weithredu hawliau penodol ynghylch prosesu eich data gan Ffotogallery.
Yn arbennig, mae gan Ddefnyddwyr yr hawl i wneud y canlynol:
Manylion am yr hawl i wrthwynebu prosesu
Pan fydd Data Personol yn cael ei brosesu er budd y cyhoedd, wrth weithredu awdurdod swyddogol sydd gan Ffotogallery neu at ddibenion y diddordebau cyfreithlon sydd gan Ffotogallery, gallai’r Defnyddwyr wrthwynebu prosesu o’r fath drwy gyfeirio at reswm sy’n ymwneud â’u sefyllfa benodol er mwyn cyfiawnhau’r gwrthwynebiad.
Mae’n rhaid i ddefnyddwyr wybod, fodd bynnag, os bydd eu Data Personol yn cael ei brosesu at ddibenion marchnata uniongyrchol, y gallent wrthwynebu’r prosesu hwnnw unrhyw bryd heb roi unrhyw gyfiawnhad. I ganfod a yw’r Perchennog yn prosesu Data Personol at ddibenion marchnata uniongyrchol, gallai’r Defnyddwyr gyfeirio at yr adrannau perthnasol o’r polisi hwn.
Sut i arfer yr hawliau hyn
Gellir cyfeirio unrhyw geisiadau i arfer hawliau’r Defnyddwyr yn uniongyrchol i Ffotogallery gan ddefnyddio’r manylion cysylltu sydd wedi eu darparu isod. Gellir arfer y ceisiadau hyn yn rhad ac am ddim a bydd Ffotogallery yn ymdrin â nhw gynted ag y bo modd.
Cysylltu â ni
Gallwch gysylltu â ni ar yr e-bost, dros y ffôn neu drwy’r post ynglŷn â materion sy’n ymwneud ag unrhyw rai o’r uchod, gan ddefnyddio’r manylion a ganlyn:
E-bost: info@ffotogallery.org
Post:
Ffotogallery Wales Ltd,
Yr Hen Ysgol Sul,
Fanny Street,
Cathays,
Caerdydd
CF24 4EH
Ffôn: 029 2034 1667