Diffusion

Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Caerdydd

-Diffusion

Rhagarweiniad

Gŵyl fis o hyd, ddwyflynyddol o ffotograffiaeth ryngwladol yw Diffusion: Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Caerdydd, a gynhelir yng Nghaerdydd, prifddinas Cymru. Crewyd yr ŵyl gan Ffotogallery ac fe’i cynhelir ar y cyd â chylch eang o bartneriaid a chefnogwyr lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Mae Diffusion yn dathlu ffotograffiaeth a’r ddelwedd ffotograffig ar ei holl agweddau. Boed wedi ei chreu, ei chyhoeddi, ei harddangos, ei chasglu neu ei dosbarthu, yn gorfforol neu ar ffurf rithwir, mae gan y ffotograff y pŵer i ennyn ac esgor ar adwaith, i adlewyrchu ein profiad ein hunain ac eiddo cymdeithas sy’n esblygu o’n cwmpas.

2019

Sain+Llun

Yn ystod yr ŵyl byddwn yn cyflwyno rhaglen o arddangosfeydd, ymyriadau, sgriniadau, perfformiadau, digwyddiadau a dathliadau mewn pob math o fannau a lleoliadau go iawn a rhithwyr. Yn ogystal â’r cynnwrf o gyfrannu’n uniongyrchol i’r ŵyl a bod yn rhan o ddigwyddiad â chyrhaeddiad rhyngwladol, mae Diffusion 2019 yn cynnig cymaint mwy – cyhoeddiadau print ac arlein, gwefannau, cynnwys ar gyfer ffonau symudol a thrafodaethau ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol.

Thema Diffusion 2019 yw Sain+Llun. Bydd yr ŵyl yn archwilio’r berthynas rhwng sain, ffotograffiaeth a chyfryngau lens a sut mae sain yn dylanwadu ar y ffordd y caiff delweddau eu cyfryngu, cyflwyno a’u darllen yn ein diwylliant gweledol cyfoes; ac yn yr un modd, sut y gall cerddoriaeth fod yn brofiad gweledol yn ogystal â chlywedol.

2017

Mae Diffusion 2017 yn ystyried ‘chwyldro’ yn ei gyd-destun ehangaf, gan ymchwilio i adegau o newid cymdeithasol a mudiadau’n ymwneud â rhyddid mynegiant, cyrchu iwtopia, hawliau dynol a hunaniaeth. Trwy brism ffotograffiaeth a chyfryngau’n seiliedig ar lens, archwilir newidiadau dramatig a phell-gyrhaeddol y can mlynedd diwethaf i’n ffordd o fyw – rhai technolegol, gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol.

2015

Y thema a ddewiswyd ar gyfer Diffusion 2015 yw Chwilio am America, sef ymchwiliad traws-ddisgyblaethol i statws ac ystyr presennol y ‘Freuddwyd Americanaidd’ mewn perthynas â phrofiadau yng Nghymru, America gyfoes, a gweddill y byd.

Yn cael ei gynnal mewn lleoliadau ar draws Caerdydd a thu hwnt, mae’r ŵyl yn rhaglen mis o hyd o arddangosfeydd, ymyriadau, dangosiadau ffilm, perfformiadau, digwyddiadau a dathliadau mewn gofodau a mannau go iawn a rhithwir. Bydd yr ŵyl yn defnyddio cyfryngau traddodiadol a newydd i greu presenoldeb gweledol cryf ar draws lleoliadau presennol a mannau o’r newydd.

Ymhlith uchafbwyntiau’r ŵyl mae And Now It’s Dark, sef arddangosfa o ffotograffiaeth nos Americanaidd sy’n cynnwys tri ffotograffydd cyfoes Americanaidd o bwys – Jeff Brouws, Todd Hido a Will Steacy. Mae Dépaysé gan Serge Clément yn daith seico-ddaearyddol o Montreal, ei ddinas frodorol, sy’n dod ynghyd corff o waith sy’n ymestyn dros ddeugain mlynedd. Mae’r arddangosfa bwerus As It was Give(n) to Me gan yr artist Stacy Kranitz sy’n enedigol o Kentucky yn dwyn cymariaethau rhwng brwydrau economaidd y cymunedau glofaol yng Nghymru a chanolbarth Appalachia. Mae’r ffotograffydd o Gymru Jack Latham yn mynd â ni ar daith ar hyd y Llwybr Oregon yn A Pink Flamingo – llwybr sydd wedi dod yn rhan o hanes yr Unol Daleithiau a gwreiddio ei hun ym mreuddwydion y sawl sy’n chwilio am rywbeth gwell ar orwel pell yn rhywle arall.

2013

A Ble Rydym Ni Nawr?

Dyma’r cwestiwn a ofynsom i artistiaid, cynhyrchwyr diwylliannol, curadwyr a rhaglenwyr ei ystyried yn eu cyfraniadau i Diffusion 2013, ac y byddwn yn ei archwilio gyda chynulleidfaoedd a chyfranogwyr.

Daw pobl ar draws delweddau ffotograffig yn feunyddiol, nid yn unig mewn papurau newydd, cylchgronau, hysbysebu ac ar y teledu, ond hefyd ar-lein, ar aps ffôn symudol a gwefannau rhwydweithio cymdeithasol. Rydym yn byw mewn oes o syrffed delweddol a gyda’r ffiniau rhwng artist a chynulleidfa, amatur a phroffesiynol yn fwyfwy aneglur gellid gofyn a ble mae ffotograffiaeth nawr? Chafodd y byd erioed mo’i ddelweddu gymaint, ac eto mae natur ac ystyr ffotograffiaeth a’i statws mewn celf yn fwy o bwnc llosg nag erioed.

Mae Diffusion 2013 yn archwilio’r newidiadau diwylliannol hyn a gwahanol ffyrdd o gynhyrchu, cyflwyno a dosbarthu celf. Edrychir ar y berthynas mewn celf ffotograffig rhwng ffurfiau traddodiadol a rhai newydd cymysgryw a’u lle yn y diwylliant gweledol cyfoes. Cynigir gofod i artistiaid, gweithredwyr diwylliannol a chynulleidfaoedd rannu profiad ac ymdrech creadigol, i gychwyn gwneud synnwyr o fyd lle y gall, ac y gwna, bron unrhyw un droi’n ffotograffydd a dosbarthu eu delweddau o fewn cymunedau ar-lein – cymdeithas lle bu newid dramatig yn ein profiad o amser a gofod.