Prosiect

Bedazzled – Cymro yn Efrog Newydd

Project ar-lein sy’n gydymaith i sioe Ffotogallery, Bedazzled – A Welshman in New York, a gomisiynwyd yn arbennig gan Ŵyl 100 Dylan Thomas a Chaerdydd Gyfoes. Mae Bedazzled yn dathlu’r berthynas arbennig a oedd gan Dylan Thomas â’r Unol Daleithau, yn enwedig Efrog Newydd, a dylanwad parhaus ei fywyd a’i waith ar y ddwy ochr i Fôr Iwerydd. Mewn cyfres o berfformiadau byw yng Nghei Newydd a Chaerdydd yn ystod hydref 2014, cafodd aelodau’r gynulleidfa eu trawsgludo yn ôl i fyd bohemaidd Efrog Newydd yn y 1950au. Mae’r project gwe ar yr un pryd yn ailddychmygu hoff far Dylan, y White Horse Tavern, gan roi cipolwg i mewn i fywyd y bardd yn Efrog Newydd, ac archwilio’i gymeriad amlochrog. Mae’r wefan yn cynnwys cyfweliadau fideo a gomisiynwyd yn arbennig gyda chyfoedion y bardd yn Efrog Newydd yn ogystal ag archif gynhwysfawr o recordiadau sain Dylan.

Gwahoddwyd ysgolion yng Nghymru i gymryd rhan mewn project celf a gyllidwyd â chymorth torfol, “Dylan Thomas y Bobl”. Troswyd gweithiau celf disgyblion yn bortread digidol i ddathlu canfed penblwydd Dylan Thomas.

http://bedazzledinnewyork.org/