Sianel / 30 Tach 2023

Newyddlen mis Tachwedd


© Jack Moyse

Mae Ffocws 2023 yn Agored Bellach

Yn dilyn noson agoriadol lwyddiannus yr wythnos diwethaf, mae’n bleser o’r mwyaf rhoi gwybod i chi bod Ffocws 2023 yn agored erbyn hyn!

Mae’r arddangosfa’n dod â gwaith pedwar ar ddeg o artistiaid dawnus at ei gilydd gan gyffwrdd â themâu gwahanol yn amrywio o hunaniaeth, teulu, mudo ac anabledd i ddeallusrwydd artiffisial ac arferion celf cymunedol. Mae’r safbwyntiau unigol eang sy’n cael eu harddangos yn ein hatgoffa am y cyfleoedd creadigol y mae ffotograffiaeth yn eu cynnig ar gyfer cysylltu pobl â’i gilydd yn ein byd newidiol ac anodd ei ragweld.

Hoffem ddiolch i bawb a ddaeth draw i ragddangosiad yr arddangosfa i gefnogi’r artistiaid a’r fenter Ffocws. Rydym yn ddiolchgar iawn i chi am eich cefnogaeth bob amser.

Mae’r arddangosfa’n parhau hyd 12 Ionawr 2024.

Sgyrsiau ag Artistiaid Ffocws Ar-lein

Gallwch ddysgu rhagor am y deg artist a ddewiswyd ar gyfer Ffocws 2023 drwy’r gyfres hon o sgyrsiau ar-lein. Dros y tair sesiwn, gwahoddir yr artistiaid i siarad am eu gwaith sy’n cael ei ddangos yn yr arddangosfa ac anogir aelodau o’r gynulleidfa i anfon unrhyw gwestiynau sydd ganddynt.

Mae’r sgyrsiau hyn yn digwydd ar-lein drwy Zoom. Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad arbennig, anfonwch e-bost at [email protected] cyn y digwyddiad ac fe wnawn ein gorau i’ch cynorthwyo.

Sgwrs â’r Artist #01

30 Tachwedd / 6.30 - 8pm
Ar Zoom

Alice Forde
Megan Morgan
Emma Spreadborough

Archebu nawr


Sgwrs â’r Artist #02

7 Rhagfyr / 6.30 - 8pm
Ar Zoom

Robin Chaddah-Duke
Viv Collis
Shannon Maggie Rees

Archebu nawr


Sgwrs â’r Artist #03

12 Rhagfyr / 6.30 - 8pm
Ar Zoom

Jean Chan
Katie Nia
Mareah Ali
Shaun Lowde

Archebu nawr


Dydd Mawrth Te a Theisen

Ymunwch â ni i fwynhau sesiwn yr ŵyl ein Dydd Mawrth Te a Theisen ar 5ed Rhagfyr – un olaf 2023! Byddwn yn agored o 11am - 1pm a bydd staff wrth law i’ch cyfarch ac i ddweud rhagor wrthych am yr arddangosfa Ffocws ynghyd â digwyddiadau ac arddangosfeydd sydd ar y gweill yn Ffotogallery. Byddwn yn darparu mins peis!

Mwy o wybodaeth

Amseroedd agor dros yr ŵyl

Mae’r oriel yn agored bob Ddydd Mercher – Dydd Sadwrn, 12 - 5pm, hyd 16eg Rhagfyr (yn gynwysedig). Byddwn ar gau dros gyfnod yr ŵyl, ac yn ail agor ar Ddydd Mercher 3 Ionawr 2024.


Efallai yr hoffech y rhain hefyd:

Galwad am Artist - Queer Perspectives

Mae Oriel Elysium yn chwilio am bum artist i archwilio ac ymateb i’r thema ‘queer space’ gan weithio tuag at arddangosfa a fydd yn rhedeg o 31 Mai 2024 hyd y 6ed Gorffennaf 2024.

elysiumgallery.com

DCC yn Cyflwyno: A Christmas Drag Show!
Dydd Gwener, 8 Rhagfyr, drysau’n agor am 19:00 / y sioe’n cychwyn am 19:30.

Hoffai Disability Collective Cymru a Cardiff Umbrella eich gwahodd i noson o Wychder Drag anabl! Mae’r digwyddiad yn arddangos y dalent drag anabl newydd a sefydledig yn Ne Cymru. (18+)

instagram.com

Gŵyl y Gaeaf Glynn Vivian
Dydd Sadwrn 16 Rhagfyr 2023, 10:30 am - 3:30 pm

Mae Glynn Vivian yn cynnal Gŵyl y Gaeaf ar Ddydd Sadwrn 16 Rhagfyr, gyda gweithdai gwneud torchau a sesiynau crefftau’r ŵyl. Archebwch i ymuno yn yr hwyl (bydd ffi i’w thalu).

glynnvivian.co.uk

Dangos Ffilm Nadoligaidd - 'The Snowman and the Snowdog'
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, 2 a 3 Rhagfyr 2023

Mae hyn yn digwydd yn narlithfa Reardon Smith yn Amgueddfa Cymru, dewch i ymlacio a gwylio un o ffefrynnau Nadoligaidd y teulu ‘The Snowman and the Snowdog’ cyn mwynhau hwyl ryngweithiol ar y diwedd gyda dyn eira. Mae’n addas i bobl a phlant 3+ oed. Bydd ffi i’w thalu.

museum.wales