Sianel / 2 Tach 2023

Cylchlythyr mis Hydref


© Emma Spreadborough

FFOCWS 2023

Estynnwn wahoddiad cynnes i chi i ymuno â ni o 6pm Nos Iau 23 Tachwedd ar gyfer agoriad Ffocws 2023. Cewch chi fod y cyntaf i weld y gwaith a gynhyrchwyd gan y ffotograffwyr hynod dalentog a gafodd eu dewis i ddangos eu gwaith yn yr arddangosfa.

Fel y cyhoeddwyd fis diwethaf, mae’r artistiaid sy’n cyfrannu’n cynnwys Alice Forde, Emma Spreadborough, Jean Chan, Mareah Ali, Katie Nia, Megan Morgan, Robin Chaddah - Duke, Shannon Maggie, Shaun Lowde a Viv Collis.

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym fod yn gweithio mewn partneriaeth â Cardiff MADE a’r Higgins Photography Initiative i gynnwys pedwar artist arall; Jack Moyse, Kaylee Francies, Ffion Denman a Tracy Patricia Harris.

Ochr yn ochr â’r arddangosfa bydd rhaglen o sgyrsiau ag artistiaid ar-lein – byddwn yn cyhoeddi manylion y rhain cyn hir, felly cadwch eich llygad ar ein newyddion.

Mae’r arddangosfa’n parhau tan 12 Ionawr 2024, ac yn agored Dydd Mercher – Sadwrn, 12 – 5 pm. Nodwch: bydd yr oriel ar gau dros gyfnod yr ŵyl o 17 Rhagfyr ac yn ail agor Ddydd Mercher 3 Ionawr 2024.

Mwy o wybodaeth


© Dylan Lewis Thomas

Pink Portraits Revisited

Dim ond ychydig ddiwrnodau sydd gennych ar ôl i weld ein harddangosfa dros dro bresennol! Mae Pink Portraits Revisited yn gyfres o bortreadau sy’n dangos y genhedlaeth nesaf o bobl broffesiynol LHDTC+ yn gweithio tu ôl i’r camera. Tynnwyd y lluniau gan y ffotograffydd o Gymru, Dylan Lewis Thomas, a gomisiynwyd gan Wobr Iris yn fuan yn 2023 gyda chefnogaeth gan Ffotogallery, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru.

Mwy o wybodaeth

© Shannon Maggie

Ffocws ar @ffotogalleryplatform

Am fod arddangosfa Ffocws yn dynesu’n gyflym, bydd yr artistiaid a ddewiswyd yn meddiannu’r cyfrif @ffotogalleryplatform yn ystod yr wythnosau nesaf felly cewch gyfle i ddod i’w hadnabod nhw a’u gwaith cyn y noson agoriadol – gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn y cyfrif i weld prosiectau gwych gan raddedigion o brifysgolion o amgylch Cymru!

Mwy o wybodaeth

Dydd Mawrth Te a Theisen

Bydd y Dydd Mawrth Te a Theisen nesaf yn digwydd ar Ddydd Mawrth 7 Tachwedd 2023. Byddwn yn agored o 11am hyd 1pm gyda staff wrth law i’ch cyfarch ac i ddweud mwy wrthych am yr arddangosfeydd a’r digwyddiadau sydd ar y gweill yn Ffotogallery. Dyma fydd eich cyfle olaf i weld yr arddangosfa Iris Pink Portraits Revisited, felly gwnewch yn siŵr nad ydych yn ei cholli!

Mwy o wybodaeth

Gweminar Photovoice gyda Dr Deborah Chinn

Wnaethoch chi golli ein digwyddiad ar-lein diweddaraf? Gallwch wylio recordiad o’r gweminar photovoice yn awr wedi’i gyflwyno gan Dr Deborah Chinn yn rhan o’r arddangosfa a phrosiect Feeling at Home yma.

Mwy o wybodaeth

Gwobr Arts Award Efydd gydag Oasis Cardiff

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu llwyddiannau grŵp o geiswyr lloches a ffoaduriaid ifanc o Oasis y buom yn gweithio â nhw’n ddiweddar i ddarparu’r Cymhwyster Arts Award Lefel Efydd. Dros ddeg wythnos yn ystod yr haf, gweithiodd y grŵp ar gyfres o weithdai ffotograffiaeth ymarferol, cawsent brofiad o’r celfyddydau drwy ymweliadau â sefydliadau celfyddydol, roeddent yn ymchwilio artistiaid o’u dewis ac yn cyflwyno sesiynau Skillshare ar bwnc dewisol, Gweithiodd y grŵp yn eithriadol o galed i gwblhau eu portffolios a llwyddodd bob un o’r pum person ifanc a gymerodd ran i gyflawni eu Cymhwyster Arts Award Efydd. Rydym yn hynod o falch ohonyn nhw a’u llwyddiant!


Gwelwch ein harddangosfeydd ar-lein

Wyddoch chi y gallwch weld ein harddangosfeydd blaenorol o hyd drwy ein teithiau rhithwir 360 gradd? Gallwch agor y rhain ar y tudalennau arddangos unigol ar ein gwefan (drwy ‘Beth sy’ Mlaen?’). Ein diweddaraf yw You & I gan Jack Moyse – yn syml iawn, defnyddiwch y saethau ar eich bysellfwrdd i archwilio’r lle, a chliciwch ar y lluniau a’r geiriau i’w chwyddo.

Mwy o wybodaeth

Efaillai hefyd yr hoffech:

A Different View yn studioMADE, Dinbych

Mae’r arddangosfa’n rhoi llwyfan i syniadau graddedigion diweddar a llinellau ymholi sy’n dod i’r amlwg. Mae’r gwaith celf sy’n cael ei arddangos yn archwilio’r berthynas rhwng materoliaeth a lle, yn codi cwestiynau am hunaniaeth a hunan-ddelwedd, yn wynebu seilweithiau cymdeithasol a gwleidyddol, ac yn cyfathrebu elfennau cynnil a chymhleth profiadau pob dydd. Bydd A Different View yn rhedeg yn studioMADE hyd Ddydd Sadwrn 25 Tachwedd 2023.
arts.wales/news-jobs-opportunities/different-view-studiomade

Artes Mundi 10

Mae’r arddangosfa Artes Mundi 10 yn agored yn awr ac, am y tro cyntaf, mae’n digwydd mewn amrywiol safleoedd yng Nghymru, yn cynnwys Chapter, Glyn Vivian, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Mostyn ac Oriel Davies.
artesmundi.org/exhibitions

Theatr Clwyd: Galwad Agored am Gelf

Mae Theatr Clwyd yn gwahodd artistiaid, gwneuthurwyr theatr a thimau dylunio cydweithredol i fynegi diddordeb mewn creu celfyddyd gyhoeddus sy’n ysbrydoli ac yn gynhwysol.
theatrclwyd.com/news/publicart-opencall


Fresh Eyes 2024 Agored i Geisiadau

Mae FRESH EYES International yn alwad agored fyd-eang, sy’n gwahodd ffotograffwyr o bob cwr o’r byd i arddangos eu gweledigaeth a’u harbenigedd yn eu maes ffotograffig dewisedig. Bydd y ffotograffwyr a ddewisir yn cael eu cyflwyno mewn cylchgrawn clawr meddal atmosfferig.
fresheyesphoto.com