Sianel / 30 Meh 2023

June Newsletter


© Jack Moyse

Cyhoeddi enillydd Interventions: Gallery Reset

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym gyhoeddi mai enillydd ein galwad agored Interventions: Gallery Reset diweddar mewn partneriaeth â Disability Arts Cymru yw Jack Moyse. Cawsom lawer o geisiadau o safon uchel iawn, a hoffem ddiolch i bawb a gymerodd yr amser i wneud cais.

Mae Jack Moyse yn ffotograffydd ac artist sy’n gweithio o Abertawe, De Cymru. Mae ei waith yn canolbwyntio ar faterion cymdeithasol fel demoneiddio mudwyr, ableddiaeth ac iechyd meddwl.

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Jack dros y misoedd nesaf i gefnogi datblygiad arbrofol ei waith ac i’w helpu i roi ei syniadau i ail ddychmygu ein horiel ar waith. Cadwch eich llygad ar ein gwefan a’n tudalennau cyfryngau cymdeithasol i weld y diweddariadau, a darllenwch y cyhoeddiad llawn ar y ddolen isod.

Mwy o wybodaeth


Assignments 23 yn parhau wyneb yn wyneb ar ar-lein

Mae Assignments 23 yn parhau yn yr oriel ac mae’n agored o Ddydd Mercher i Ddydd Sadwrn, 12 - 5pm. Os nad ydych wedi cael cyfle i weld yr arddangosfa, neu os ydych wedi bwriadu galw draw am ymweliad arall i’w fwynhau, mae’r arddangosfa’n dangos tan 22 Gorffennaf!

Tra byddwch yma, gwnewch yn siŵr eich bod yn cael copi o gatalog swyddogol yr arddangosfa. Mae’r llyfr yn cynnwys y cant o luniau sydd yn yr arddangosfa, felly mae’n gofrodd wych o’ch ymweliad.

Os na allwch fynd i’r oriel cyn 22 Gorffennaf, yna gallech archwilio’r arddangosfa’n rhithiol ar y daith 360 gradd hon.

Mwy o wybodaeth


© Chris Fairweather

Sgwrs Chris Fairweather - Y BPPA

Dydd Iau - Gorffennaf 8fed 2023 - 6.00 pm

Ar ddydd Iau 13 Gorffennaf o 6pm mae’n bleser mawr gennym gynnal ail sgwrs ag artist mewn cydweithrediad â’r arddangosfa Assignments 23. Yn ymuno â ni bydd y ffotograffydd arobryn sy’n aelod o BPPA, Chris Fairweather.

Mae Chris yn ffotograffydd staff a Phennaeth Datblygiad Lluniau a Fideo yn yr Huw Evans Picture Agency, sef yr asiantaeth ffotograffiaeth fwyaf blaenllaw yng Nghymru.

Mae eleni – 2023 – yn garreg filltir arwyddocaol, sef degawd ers i Chris ymgartrefu yn Ne Cymru. Yn ystod y digwyddiad hwn bydd yn rhannu atgofion ac yn arddangos ei hoff luniau, gan ddarlunio hanfodion taith wych ei fywyd yng Nghymru.

Archebwch eich tocyn am ddim drwy Eventbrite.

Mwy o wybodaeth


Oasis a Ffotogallery yn Nhafwyl 2023

Mae’n bleser mawr gennym weithio ar brosiect cymunedol mewn cydweithrediad ag Oasis a’r ffotograffydd proffesiynol Dafydd Owen. Rydym wedi bod yn darparu gweithdai creadigol yn archwilio sylfeini ffotograffiaeth, yn cynnwys ffotograffiaeth arbrofol, taith gerdded ffotograffig o’r ardal leol o amgylch Oasis a sesiwn yn y stiwdio bortreadau, i grŵp o ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n gweithio gydag Oasis.

Bydd y lluniau a dynnwyd drwy’r gweithdai’n cael eu dangos mewn arddangosfa yn yr Hen Lyfrgell yn yr Aes am bythefnos, yn rhan o raglen Gŵyl Tafwyl, a bydd y digwyddiad agoriadol ar Ddydd Llun 10fed Gorffennaf. Byddent wedi eu harddangos hefyd yng Ngŵyl Gerdd Tafwyl ym Mharc Bute, Caerdydd yng nghanol mis Gorffennaf.

Cadwch lygad yma am ragor o ddiweddariadau!


Platfform Ffotogallery yn dychwelyd

Os ydych yn dilyn ein cyfrif @ffotogalleryplatform, efallai eich bod wedi sylwi ar ein tawelwch ers cyfnod – felly byddwch yn falch o glywed ein bod yn ail lansio’r prosiect Platfform Ffotogallery fis nesaf! Bydd tîm Ffotogallery yn gwahodd artistiaid ac yn cynnig y cyfle iddynt arddangos eu gwaith ar y cyfrif. Drwy wneud hynny, gobeithio y byddwn yn cefnogi artistiaid ac yn helpu i greu cysylltiadau o fewn y gymuned ffotograffig a’r gymuned artistig ar-lein.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn y cyfrif ar Instagram, a chadwch lygad yma am ragor o wybodaeth.

Mwy o wybodaeth


Dydd Mawrth Te a Theisen

Dyddiad arall i’w roi yn eich dyddiadur! Bydd y Dydd Mawrth Te a Theisen nesaf ar Ddydd Mawrth 4ydd Gorffennaf 2023. Byddwn yn agor rhwng 11 am a 1pm a bydd staff wrth law i’ch cyfarch ac i ddweud rhagor wrthych am yr arddangosfeydd a’r digwyddiadau sydd ar y gweill yn Ffotogallery. Bydd hefyd yn rhoi cyfle i chi gael sbec bach tawel ar ein harddangsofa, Assignments 23 gan Gymdeithas Ffotograffwyr y Wasg Brydeinig. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi a chael sgwrs dros goffi a chacen.

Mwy o wybodaeth

Efallai hefyd byddwch yn mwynhau:


Portal 2023

Galwad i raddedigion ymhob man, dyma un i chi! Mae Llantarnam Grange yn chwilio am leisiau newydd yn y byd celf a chrefft gyfoes i arddangos yn eu harddangosfa flynyddol i raddedigion, Portal. Os ydych wedi graddio o unrhyw gwrs celfyddyd gymwysedig neu weledol, BA neu MA (Anrh) mewn prifysgol yn y DU yn 2023, yna rydych yn gymwys i wneud cais. Mae Portal yn gyfle i bymtheg crefftwr, artist, dyluniwr, ffotograffydd a gwneuthurwr gymryd rhan yn yr arddangosfa flynyddol o artistiaid graddedig yn Llantarnam Grange, Cwmbran, de Cymru. Mae hwn yn gyfle gwych i ddangos gwaith i’r cyhoedd mewn arddangosfa grŵp, bod yn rhan o gyhoeddiad, datblygu eich sgiliau, tyfu eich rhwydwaith artistiaid a derbyn mentoriaeth gan dîm yr oriel.

Mwy o wybodaeth

CoDI 23-24: Penguin Pebbling

Llwybr yw Penguin Pebbling yn arbennig i grëwyr cerddoriaeth sy’n niwrowahanol – a hynny’n gerddoriaeth o unrhyw genre. Bydd y 6 crëwr cerddoriaeth, cynnar yn eu gyrfa, a ddewisir yn derbyn £500 yr un am gymryd rhan. Yn ystod y gyfres o weithdai, byddent yn archwilio technegau a dulliau, gan arwain at recordiad/ddigwyddiad rhannu terfynol. Bydd y gweithdai’n digwydd yng Nghaerdydd ar bedwar dydd Sadwrn ar draws cyfnod o ddeufis, ond croesewir ceisiadau gan grëwyr cerddoriaeth o bob rhan o Gymru a thelir treuliau i unrhyw artist sydd angen teithio.

Mwy o wybodaeth

Agored 2023 Arddangosfa Agored Galeri Caernarfon

Mae Agored/Open 2023 yn cynnig cyfle i unrhyw un o unrhyw oedran – p’un a ydyn nhw’n artistiaid proffesiynol, yn fyfyrwyr neu’n rhywun sy’n creu celf yn eu hamser rhydd, i fod yn rhan o arddangosfa arbennig yn Lleoedd Celf Galeri.

Mwy o wybodaeth

Bywlunio yn Oriel Gelf Glynn Vivian

Sesiwn bywlunio i bobl o bob gallu. Bydd îsls/standiau ar gael i’r rhai sy’n cyrraedd gyntaf. Rhaid archebu. Y tocynnau’n £5. Bydd y deunydd i gyd wedi’i ddarparu. Mae nifer gyfyngedig o leoedd am ddim ar gael i’n cymuned o ffoaduriaid ac unigolion sy’n ceisio lloches neu sydd ar incwm isel.

Mwy o wybodaeth