Sianel / 20 Rhag 2023

Cylchlythyr mis Rhagfyr


NEGES DIWEDD BLWYDDYN GAN EIN CYFARWYDDWR

"Wrth i 2023 ddod i ben, hoffwn ddweud diolch o galon i bawb sydd wedi cefnogi Ffotogallery eleni. P’un a ydych chi wedi dod i ymweld â ni yn yr oriel, wedi bod mewn digwyddiadau ar-lein neu wedi annog eich cyfeillion a’ch teulu i wneud hynny, rydym yn hynod o ddiolchgar i chi am barhau i’n cefnogi ni. Mae ein gwirfoddolwyr wedi bod yn rhagorol eleni, felly diolch i bawb sydd wedi rhoi eu hamser i’n helpu i osod arddangosfeydd, goruchwylio a helpu gyda digwyddiadau – byddai’n amhosibl i ni wneud yr hyn a wnawn ni heboch chi!

Dros y misoedd diwethaf, mae wedi bod yn bleser o’r mwyaf i arddangos gwaith rhai o’r talentau lleol gorau sy’n dod i’r amlwg yng Nghymru ac i ddod i adnabod yr artistiaid gwych yma. Am fod ein harddangosfa Ffocws bresennol mor boblogaidd, rydym yn ei hymestyn hyd ddechrau mis Chwefror 2024. Rydym yn paratoi ar gyfer blwyddyn brysur o arddangosfeydd a digwyddiadau yn 2024, gyda rhai prosiectau cyffrous ar y gweill yn barod. Mae ein harddangosfa Gallery Reset nesaf (a gefnogir gan Art Fund), yn agor yn gynnar ym mis Mawrth a bydd yn cael ei churadu gan y ffotonewyddiadurwr a’r ymchwilydd Nelly Ating. Bydd yr arddangosfa’n canolbwyntio ar ail ddychmygu archifau ffotograffig yng nghyd-destun yr oriel. Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu prosiectau newydd gyda chefnogaeth British Council ar gyfer partneriaeth ryngwladol gyda FotoFeminas yn America Ladin. Mwy o wybodaeth i ddod!"

Gyda dymuniadau gorau’r tymor gan Siân a thîm Ffotogallery – rydym yn edrych ymlaen at eich gweld chi yn y Flwyddyn Newydd.



FFARWÉL ALEX

Mae’n destun tristwch i ni fod ein cydweithiwr gwych Alex yn gadael ei rôl fel Rheolwr Gweithrediadau yn Ffotogallery ac yn symud i swydd newydd. Ymunodd Alex â Ffotogallery drwy gynllun Interniaeth Natwest yn ôl ym 2018 a gweithiodd yn galed i ddod yn aelod craidd o’r tîm.

Dyma sydd gan Alex i’w ddweud am ei hamser yn Ffotogallery:

“Dw i’n methu credu ei bod hi’n amser i mi fynd! Rydw i wedi cael amser anhygoel yn gweithio ochr yn ochr â’r tîm rhagorol ar brosiectau mor wych (yn cynnwys dwy ŵyl Diffusion, arddangosfeydd drwy’r byd i gyd, a sioeon sy’n meithrin talent newydd yn agosach at adref yng Nghymru). Diolch o galon i’r artistiaid, gwirfoddolwyr a gweithwyr llawrydd yr wyf wedi gweithio â nhw dros y pum mlynedd diwethaf am ei wneud yn brofiad mor hyfryd.”

Dymunwn bob hwyl i Alex gyda’i hantur newydd gydag Opera Genedlaethol Cymru, a gwyddom y bydd hi’n wych yn ei rôl newydd. Cwpanaid o Earl Grey i fynd?

PROSIECT TRAETHAWD FFOTOGRAFFAU CODI CALON MIS IONAWR

Mae mis Ionawr yn gallu bod yn fis tywyll a hir ar ôl dathliadau’r ŵyl, felly hoffem eich gwahodd i gyd i ymuno â ni ar brosiect sydd wedi ei lunio i’n helpu i wella ein lles a chodi ein hwyliau! Ein nod yw creu gofod lle gall ein creadigedd a’n lles gyfarfod.

Ar ddechrau 2023 rhedwyd prosiect gennym gyda phromptiau dyddiol ond eleni rydym wedi penderfynu gwneud pethau ychydig yn wahanol. Yn lle prompt bob dydd, byddwn yn cyhoeddi prompt ar ddechrau pob un o’r 5 wythnos ym mis Ionawr (4 wythnos lawn a thri diwrnod yn wythnos 5). Bydd y themâu yn dilyn 5 Thema Llesiant a byddwn yn eich gwahodd i greu traethawd ffotograffau sy’n archwilio’r thema ar gyfer pob wythnos newydd gyda chynifer, neu gyn lleied, o ffotograffau ag yr hoffech eu tynnu.

Gallwch weld rhagor ynglŷn â sut i gymryd rhan drwy fynd i’n gwefan isod.

Mwy o wybodaeth

Sgyrsiau â’r Artist Ffocws

Wnaethoch chi golli cyfle i glywed ein sgyrsiau diweddar ar-lein gydag artistiaid? Peidiwch â phoeni! Rydym wedi rhoi’r recordiadau ar-lein felly gallwch eistedd gyda chwpanaid o de a gwylio ein hartistiaid Ffocws gwych yn siarad yn fanwl am eu prosiectau i roi gwell dealltwriaeth i chi, y gynulleidfa, am y gwaith sy’n cael ei arddangos.

Mwy o wybodaeth


Taith rithwir Ffocws 2023

Os nad ydych wedi cael cyfle i alw draw, neu’n methu mynd i lawr i Ffotogallery – peidiwch â phoeni! Gallwn ni ddod â’r gwaith atoch chi – gyda’n taith rithwir 360 gradd o amgylch ein harddangosfa, byddwch yn teimlo fel petaech chi yno go iawn. Gallwch weld gwaith gwych gan y pedwar artist ar ddeg sy’n arddangos eu gwaith heb i chi adael eich cadair freichiau.

Mwy o wybodaeth


Mae recordiad ar gael bellach o’r Drafodaeth Banel

Mae’r recordiad sain o’r drafodaeth banel Barriers Facing Young Disabled Artists gyda Suzie Larke, Jack Moyse a Joshua Jones ar gael yn awr i chi ei gyrchu ar ein gwefan (mae trawsgrifiad sain ar gael hefyd).

Os nad oeddech wedi gallu mynd i’r digwyddiad, gallwch wrando ar-lein bellach ar y drafodaeth banel bwysig hon sy’n llawn gwybodaeth.

Mwy o wybodaeth


Dydd Mawrth Te a Theisen

Bydd y Dydd Mawrth Te a Theisen nesaf ar ddydd Mawrth 9fed Ionawr 2024. Byddwn yn agored o 11am hyd 1pm gyda staff ar gael i’ch cyfarch ac i ddweud rhagor wrthych am yr arddangosfeydd a’r digwyddiadau sydd ar y gweill yn Ffotogallery.

Mwy o wybodaeth

Efallai y byddech yn hoffi’r rhain hefyd:

The Gods Are All Here (ar-lein ar gais)

Yn dilyn taith lwyddiannus 20 perfformiad yn Lloegr yr Hydref hwn, a’i daith gynharach ledled Cymru yn 2022, bydd yr Adroddwr Stori o Gymru, Phil Okewedy, gyda chefnogaeth gan y cynhyrchwyr, Adverse Camber, yn ffrydio The Gods Are All Here ar alw yn awr o 11 Rhagfyr 2023 hyd 1 Ionawr 2024.

adversecamber.org

Tlodi, Iaith a Deddf y Tlodion Newydd yng Nghymru, 1834-1871

26 Ionawr 2024, 2pm (ar-lein)

Bydd yr arbenigwr cofnodion, Paul Carter, yn archwilio rhai o’r problemau yr oedd y bobl dlawd yng Nghymru’n eu hwynebu a’r ffyrdd y cafodd diwylliant Cymru ei amlygu yn y brwydrau gwleidyddol yn ymwneud â lles. Bydd hefyd yn trafod cymariaethau o lythyrau eirioli a thlodion Cymru gyda’r rhai cyfatebol yn Lloegr.

eventbrite.co.uk

Gludafael / Holdfast

24 Tachwedd 2023 - 10 Mawrth 2024
Glynn Vivian, Swansea

Arddangosfa grŵp lle mae cydweithfa o wyth artist yn astudio gallu celf i ymateb i’r argyfwng hinsawdd.

glynnvivian.co.uk


Agored 2024 - Plas Brondanw

Thema ac ysbrydoliaeth arddangosfa Agored eleni yw ‘Gweddnewidiad’. Bydd hon yn digwydd ar yr un pryd ag arddangosfa o waith Susan Williams-Ellis yn y parlwr ar ben y grisiau. Mae croeso i chi ddehongli’r thema unrhyw ffordd sy’n sbarduno eich dychymyg.

plasbrondanw.org

---

Mae’r oriel wedi cau bellach ar gyfer cyfnod y gwyliau! Mae Ffocws 2023 yn ail agor ar Ddydd Mercher 3ydd Ionawr 224, ac mae wedi ei ymestyn bellach tan Ddydd Sadwrn 3 Chwefror felly bydd gennych ychydig o wythnosau ychwanegol i ddod i’w weld yn y flwyddyn newydd.