Sianel / 31 Awst 2023

Newyddlen mis Awst


ESTYNIAD I'R ARDDANGOSFA YOU AND I GAN JACK MOYSE

Yn agored o Ddydd Mercher i Ddydd Sadwrn, 12 - 5pm tan 23 Medi 2023

Rydym wedi cael ymateb gwych i’n harddangosfa bresennol gyda Jack Moyse, enillydd yr alwad agored ddiweddar Ymyriadau: Ailosod Oriel mewn partneriaeth â Disability Arts Cymru. Mae’r gofod wedi ei weddnewid yn hyfryd ac nid yw’n un i’w golli! Os nad ydych wedi cael cyfle i alw i mewn eto, peidiwch â phoeni – mae’r arddangosfa wedi cael ei ymestyn erbyn hyn fel bod gennych tan Ddydd Sadwrn 23 Medi i ymweld. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gweld rhai o’r digwyddiadau eraill sydd gennym ar y gweill hefyd.

Mwy o wybodaeth

Trafodaeth Panel - Rhwystrau sy'n Wynebu Artistiaid Anabl Ifanc

Dydd Iau 7 Medi 2023, 6 - 8pm

Mae’n bleser mawr gennym groesawu panel amrywiol o unigolion sydd oll yn gweithio yn y sîn gelfyddydau yng Nghymru. Byddent yn rhannu eu profiadau personol eu hunain, sut y goresgynwyd rhai o’r rhwystrau roeddent yn eu hwynebu, a beth sydd angen newid o hyd i wneud y sector yn fwy hygyrch a chynhwysol. Yn cymedroli’r drafodaeth bydd y ffotograffydd ac artist Suzie Larke, yng nghwmni ein panelwyr Jack Moyse, Joshua Jones a Danielle Webb.

Mwy o wybodaeth

Dathlu Arddangosfa a Lansio Llyfr

Dydd Sadwrn 9 Medi, 7 - 10pm

Ymunwch â ni i fwynhau noson o ddathlu ar Nos Sadwrn 9 Medi, gyda lansiad llyfr argraffiad cyfyngedig am yr arddangosfa, cerddoriaeth fyw a set DJ gan yr artist Jack Moyse, danteithion hen ffasiwn a mwy. Cofiwch roi hwn yn eich dyddiadur.

Mwy o wybodaeth


Dydd Mawrth Te a Theisen: The Bells of Santiago

Dydd Mawrth 5 Medi, 11 - 1pm

Bydd staff wrth law fel y maent bob tro i’ch cyfarch ac i ddweud mwy wrthych am yr arddangosfa sydd ar waith, ond mae’n bleser mawr gennym hefyd gynnal sgriniad arbennig o’r ffilm o’r archif, 'The Bells of Santiago'. Yn 1973, yn rhan o’r dathliadau ar gyfer 50fed penblwydd Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu, crewyd perfformiad operatig o stori Clychau Santiago a’r tân ofnadwy a ddinistriodd yr Eglwys Jeswitaidd yn Santiago, yr eglwys Chileaidd lle’r oedd y clychau, ar 8fed Rhagfyr 1863. Cyfansoddwyd y gerddoriaeth a’r geiriau ar gyfer yr operetta gan Terence Minty, cefnogwr mwyaf selog Ffotogallery (yn y llun uchod!)

Mwy o wybodaeth


Medi ar @ffotogalleryplatform

Ray Hobbs / 29 Awst - 1 Medi
Yn meddiannu’r cyfrif ar hyn o bryd mae Ray Hobbs, a raddiodd o’r cwrs Ffotograffiaeth Ddogfennol ym Mhrifysgol De Cymru fel myfyriwr aeddfed yn 2018. Mae ei waith yn canolbwyntio ar y cysylltiad rhwng y ffotograffydd a’r pwnc, ac mae ei waith diweddar yn cynnwys dogfennu Men’s Sheds Cymru.

Sian Cann / 12 - 15 Medi
Cafodd ddiagnosis retinopathi diabetig ymledol yn 2020 ac mae Sian yn awr yn gweithio fel Ffotograffydd gyda Nam ar y Golwg, sy’n defnyddio ei chamera polaroid i ddehongli, mynegi ac arddangos ei gweledigaethau i’r byd.

James Patrick Cox / 26 - 29 Medi
Mae James Patrick Cox yn artist gweledol sy’n gweithio gyda fideo, sain, gosodiadau, a thestun.

Mwy o wybodaeth

Arddangosfa sydd ar y Gweill yn Ffotogallery: Feeling at Home

11 - 21 Hydref 2023

Mae Feeling at Home yn arddangos gwaith gan 19 o ffotograffwyr gydag anableddau dysgu ledled Brighton a Llundain. Maen nhw wedi bod yn cwrdd mewn grwpiau bach i fyfyrio ar y pethau sy’n eu helpu i deimlo’n gartrefol, a beth sy’n rhwystr hynny. Mae’r arddangosfa’n rhoi cyfle i’r cyhoedd weld y byd drwy lygaid pobl sydd ag anableddau dysgu, ac i fyfyrio ar eu hymatebion eu hunain i’r gwaith hwn. Mae’r arddangosfa’n rhan o’r astudiaeth ymchwil Feeling at Home, a ariannwyd gan Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol y Sefydliad Ymchwil Iechyd a Gofal Cenedlaethol.

Mwy o wybodaeth

Arddangosfa Fatoumata Diabaté yn Oriel Elysium

22 Medi - 28 Hydref

Mae’r arddangosfa hon, sy’n gydweithrediad rhwng Elysium a Ffotogallery, yn arddangos gwaith diweddar gan Fatoumata Diabaté, ffotograffydd o Bamako ym Mali. Ochr yn ochr â’i phortreadau breuddwydiol a chyfareddol sydd wedi eu hysbrydoli gan chwedloniaeth a straeon tylwyth teg o’i phlentyndod, L’homme en object et L’homme en animal, mae’r arddangosfa hon yn dangos Nimissa (sy’n golygu edifarhau yn yr iaith Bambara) yn y DU am y tro cyntaf. Trwy hanes cyffredin nifer o fenywod sydd, fel yr artist, wedi dioddef anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM), mae’r delweddau sydd yn Nimissa yn cyfrannu at broses o ail adeiladu hunaniaeth fenywaidd coll, a ladratwyd oddi wrth hunan personol sydd wedi diflannu.

Mwy o wybodaeth

Cofiwch y Dyddiad: Ffair Lyfrau a Sinau

Saturday 21 October

Mae ein ffair lyfrau nesaf wedi ei gadarnhau erbyn hyn a bydd yn digwydd ar Ddydd Sadwrn 21 Hydref! Dydy manylion y dalwyr stondinau a’r amseriadau ar y diwrnod ddim wedi eu trefnu’n derfynol eto felly bydd rhagor o fanylion maes o law. Os oes gennych ddiddordeb mewn cael eich stondin eich hun, yna rhowch wybod drwy gysylltu â Chloe ar [email protected].

Rydym yn gyffrous hefyd ein bod yn mynd i gydweithio â Paul Cabuts a Brian Carroll o Offline Journal, a fydd yn cynnal diwrnod sîn ym Mhrifysgol De Cymru y diwrnod cynt (Dydd Gwener 20 Hydref). Rhagor o fanylion cyn hir!


Efallai hefyd yr hoffech:

Gŵyl Northern Eye: Tocynnau Rhatach i’r Prynwyr Cynnar

Mae’r ŵyl Northern Eye yn dychwelyd eleni ym Mae Colwyn gyda phenwythnos eu siaradwyr ar 7 – 8 Hydref a gallwch archebu eich tocynnau rhatach yn awr.
northerneyefestival.co.uk

Arddangosfa Newydd yn Ffoto Newport

Gwelwch yr arddangosfa ddiweddaraf yn Ffoto Newport, The Crumlin Arm gan y ffotograffydd Finley Chivers. Mae’r arddangosfa’n dangos tan 30 Medi.
ffotonewport.com

‘They Can Kill the Flowers but Not the Spring’ yn Volcano Theatre, Abertawe

Noson yn nodi 50 mlynedd ers 9/11 Chile, pan gafodd miloedd o bobl eu carcharu, eu harteithio, eu lladd neu ddiflannu mewn ymosodiad milwrol a gychwynwyd ac a arianwyd gan yr Unol Daleithiau.
volcanotheatre.wales

Galwad am artistiaid niwrowahanol a/neu awtistig yn Oriel Elysium, Abertawe

Mae Oriel Elysium yn chwilio am bum artist niwrowahanol a/neu awtistig 18-25 oed o Abertawe sydd eisiau cael profiad yn helpu gyda, ac yn cynnal, gweithdai a digwyddiadau.
elysiumgallery.com