Prosiect

The Valleys Archive

The Valleys Archive
Gilfach Goch From The Valleys Project 1985 © Francesca Odell
The Valleys Archive
B S C Works At Ebbw Vale From The Valleys Project 1985 © Ron Mccormick

David Bailey, Mike Berry, John Davies, Peter Fraser, Ron McCormick, Francesca Odell, Paul Reas, Roger Tiley, William Tsui

Sefydlwyd Project y Cymoedd gan Ffotogallery ym 1984 fel menter unigryw i ddogfennu un o dirweddau harddaf, er gwaethaf ei chreithiau diwydiannol, gogledd Ewrop. Yn ystod pum mlynedd y project, hyd at 1990, crynhodd waith ffotograffwyr a oedd yn byw yng Nghymru a thu allan iddi i greu cofnod gweledol o ardal ddaearyddol eang yng nghymoedd de Cymru a sylwebaeth gymdeithasol gyfoes arni.

Galluogodd y comisiynau cyntaf, a gychwynnodd ym 1985, ddau ffotograffydd adnabyddus o’r DU, Ron McCormick a Paul Reas, i gynhyrchu cyrff o waith yn canolbwyntio ar dirwedd gyfnewidiol yr ardal ynghyd â’r ymgais i ddod â thechnoleg newydd i mewn i ddiffeithle diwydiannol cyfoes. Yr un flwyddyn, comisiynwyd John Davies, artist y mae ei enw’n gyfystyr â ffotograffiaeth dirlun, i gofnodi tranc yr isadeiledd glofaol anferth, ac effaith hynny ar bobl a chymeriad Cwm Rhymni.

from The Valleys Project © Paul Reas

Yn ddiweddarach ym 1985 ymwelodd David Bailey â’r cymoedd a chynhyrchu portffolio o ddelweddau du-a-gwyn llithiol sy’n adlewyrchu ymdeimlad dryslyd rhywun o’r tu allan yn wyneb amgylchiadau daearyddol a chymdeithasol llwm y rhanbarth cyfareddol yma. Ym 1986, gwelwyd comisiynau a roddwyd i Mike Berry, Francesca Odell, Roger Tiley a Peter Fraser, sydd oll yn wneuthurwyr lluniau arbennig iawn, mewn arddangosfa a chyhoeddiad i gydfynd â hi. Ceisiai’r project hwn ymdrin yn uniongyrchol â chymunedau’r cymoedd, yn enwedig effaith Streic y Glöwyr arnynt, er y bu cynnwys Peter Fraser o fewn y cyd-destun hwn yn gam tra gwahanol gan bod ei gyfraniad ef, y gyfres gyntaf mewn lliw, yn gwrthddweud dulliau dogfennol prif-ffrwd trwy ddefnyddio delweddau ffotograffig mwy trosiadaol.

from The Valleys Project © Mike Berry

Ehangodd Ffotogallery ffinau Project y Cymoedd ymhellach, pan gafodd yr artist lleol o Ferthyr Tudful, Wally Waygood, ei gomisiynu ym mis Hydref 1989 i greu gwaith celf unigryw ar ffurf hysbysfwrdd ar safle yn Dowlais Top, Merthyr. Roedd y gwaith 20’x10′, a gyfunai ddelwedd ffotograffig a geiriau, yn archwilio thema cymoedd de Cymru a thranc eu diwydiannau trwm mewn cymdeithas ôl-ddiwydiannol.

Ym 1990, cafodd y cyfannydd olaf i Broject y Cymoedd, William Tsui, gomisiwn mawr i ddogfennu blaenau Cwm Afan yn gyffredinol, a phentref Aber/Blaengwynfi yn neilltuol, a’i gymuned fel yr oedd yn y 1990au.

from The Valleys Project © William Tsui

Mae llu o weithgareddau eraill wedi deillio o Broject y Cymoedd, yn cynnwys ymchwil hanesyddol, crynoi archifau, gweithdai gyda grwpiau cymuned lleol, a chyrsiau a dosbarthiadau mewn ysgolion yn archwilio treftadaeth a hunaniaeth y rhanbarth. Cafodd ffotograffau o’r project eu harddangos mewn amrywiaeth eang o ganolfannau: ysgolion, canolfannau cymuned, orielau celf ac amgueddfeydd.

Gyda Phroject gwreiddiol y Cymoedd bellach wedi ei gwblhau, mae’r casgliad yn ffurfio portread nodedig o ardaloedd yn ne Cymru a’u hanes. Mae’r holl bortreadau a wnaed ar gyfer Project y Cymoedd, cyfanswm o fwy na 450, yn rhan o archif Ffotogallery sydd ar gael i’w fenthyca ar gyfer gwaith ymchwil gan ysgolion, colegau, grwpiau cymuned ac aelodau’r oriel.

Am wybodaeth bellach ynglŷn ag archif y cymoedd, da chi, lawrlwythwch y pdf sy’n cynnwys mwy o wybodaeth am gefndir y project a gwaith pob un o’r artistiaid.