Sianel / 19 Rhag 2023

Recriwtio Ymddiriedolwyr yn Ffotogallery

Mae Ffotogallery yn chwilio am ymddiriedolwyr newydd i ymuno â’n bwrdd! Rydym yn chwilio am bobl a fydd yn gallu cyfrannu eu sgiliau unigryw, angerdd a’u profiadau i fywyd a gwaith un o sefydliadau celfyddydau gweledol blaenllaw Cymru; a thrwy hynny, ein helpu i ehangu amrywiaeth y safbwyntiau a chyngor sydd ar gael i’r sefydliad.

Mae ymddiriedolwyr yn chwarae rôl bwysig o ran sicrhau bod y sefydliad yn cael ei lywodraethu’n dda, yn ogystal â bod yn llysgenhadon i waith y sefydliad ac i ffotograffiaeth yng Nghymru. Bydd gofyn i aelodau’r bwrdd fynd i uchafswm o bum cyfarfod bwrdd bob blwyddyn – sy’n gymysgedd o gyfarfodydd wyneb yn wyneb ac ar-lein – a diwrnod allan bob blwyddyn, yn ogystal â mynd i amrywiol ddigwyddiadau, gwyliau ac agoriadau arddangosfeydd. Byddwch hefyd yn fodlon cynnig eich cyngor a’ch mewnbwn ar gamau allweddol drwy gydol y flwyddyn.

Mae Ffotogallery wrthi’n ceisio adeiladu Bwrdd Ymddiriedolwyr amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau y mae’n gweithio ynddynt. Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o bob cefndir a byddem yn annog ceisiadau yn arbennig gan ymgeiswyr ifanc, anabl neu o blith y mwyafrif byd-eang.

Byddai hefyd gennym ddiddordeb arbennig mewn unigolion sydd â sgiliau a phrofiad yn y meysydd a ganlyn;

  • Ffotograffiaeth

  • Celfyddydau Gweledol

  • Codi arian

  • Busnes

  • Llywodraethu

  • Economi ddigidol

  • Addysg

Os hoffech wneud cais i ymuno â’n Bwrdd, danfonwch ddatganiad ategol atom yn amlinellu pam y mae gennych ddiddordeb mewn bod yn ymddiriedolwr a beth y credwch sydd gennych i’w gynnig i’r rôl, yn ogystal â chopi o’ch CV gan gynnwys eich manylion cyswllt a’ch rhifau ffôn (yn ystod y dydd a gyda’r hwyr). Ceir manylion llawn y rôl yn y Pecyn Recriwtio Ymddiriedolwyr y gellir ei lawrlwytho.

Anfonwch eich cais erbyn Ionawr 19 ar yr e-bost at Sian Addicott yn [email protected]

Cynhelir cyfweliadau yn hwyrach ym mis Ionawr.

Llun © Inga K