Sianel / 8 Chwef 2024

Galwad Agored: Pink Portraits 2024

Mae’n bleser mawr gan Wobr Iris a Ffotogallery, mewn partneriaeth â Thrafnidiaeth Cymru, gyhoeddi cyfle newydd i hyd at ddau ffotograffydd cynnar yn eu gyrfaoedd sydd wedi eu seilio yng Nghymru.

Yn dilyn llwyddiant comisiwn Pink Portraits Dylan Lewis Thomas yn 2023, bydd gwahoddiad i’r ymgeiswyr llwyddiannus greu deg portread newydd o rai o aelodau staff LHDTC+ Trafnidiaeth Cymru, i gael eu harddangos yn Pride Cymru yn gynnar ym mis Mehefin (y lleoliad i gael ei gadarnhau).

Mae'r cyfle hwn yn agored i holl ffotograffwyr cynnar yn eu gyrfaoedd sydd wedi'u lleoli yng Nghymru ar hyn o bryd sy'n nodi eu bod yn LHDTQ+ neu sy'n gefnogwyr ac yn gynghreiriaid i'r gymuned.

I ymgeisio, cyflwynwch y canlynol drwy e-bost i [email protected]:

  • Eich enw llawn, dyddiad geni, cyfeiriad e-bost mewn dogfen Word.

  • Detholiad o hyd at 10 ffotograff yn dangos eich sgiliau mewn portreadau (72dpi)

  • Cyflwyno datganiad ysgrifenedig neu fideo byr (hyd at 250 gair/3 munud o hyd) yn amlinellu eich diddordeb mewn gweithio ar y prosiect

  • Datganiad artist/CV (uchafswm o 100 o eiriau) gan gynnwys dolen i'ch gwefan / cyfryngau cymdeithasol, lle bo hynny'n berthnaso


Mae’r broses ymgeisio’n agored o 9am ar 31 Ionawr 2024.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm Ddydd Llun 26 Chwefror. Byddwn yn rhoi gwybod i’r ymgeiswyr llwyddiannus yn fuan ym mis Mawrth.

Rydym yn gobeithio comisiynu dau ffotograffydd o leoliadau ledled Cymru i greu pum portread yr un, gan ddyfarnu ffi o £500 i bob unigolyn. Os detholir un ffotograffydd, byddent yn derbyn y ffi lawn o £1000 i greu deg portread. Telir costau teithio a chostau priodol eraill hefyd.

Ni fydd delweddau a gyflwynir ar gyfer y cyfle hwn yn cael eu cyhoeddi, eu hatgynhyrchu neu eu rhannu fel arall y tu allan i Iris a Ffotogallery heb ganiatâd yr artist.

Ar gyfer unrhyw gwestiynau neu wybodaeth bellach cysylltwch â [email protected]